Arweinydd yn cyhoeddi newidiadau i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025

Mae'r Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cadarnhau bod newidiadau wedi'u gwneud i strwythur Cabinet yr awdurdod lleol.

Wrth gyhoeddi'r gwelliannau mewn cyfarfod o'r Cabinet a gynhaliwyd ddydd Mawrth 16 Rhagfyr, cadarnhaodd fod y Cynghorydd Paul Davies wedi ymddiswyddo o rôl yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd. 

Yn y dyfodol, bydd y portffolio yn cael ei rannu ar y cyd rhwng y Cynghorydd Eugene Caparros a'r Cynghorydd Gary Haines. Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd y bydd y Cynghorydd Melanie Evans yn ymgymryd â rôl yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, swydd a rannodd gyda'r Cynghorydd Caparros yn flaenorol.

Mae'r Cynghorydd Paul Davies, a fydd yn parhau i gynrychioli ward Caerau, wedi bod yn gynghorydd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ers 2017. Ymunodd â'r Cabinet yn 2024 ac mae wedi dal nifer o rolau, gan gynnwys penodiadau i'r pwyllgor Cydraddoldeb a Chysylltiadau Cyflogaeth yn ogystal â chyrff allanol yn amrywio o Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg i Gydbwyllgor Amlosgfa Llangrallo.

"Mae bod yn Aelod Cabinet ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd a'r Amgylchedd wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint, ac rwyf wedi mwynhau'r rôl yn llawn. Fodd bynnag, mae'r amser wedi dod i ymddiswyddo er mwyn i mi allu gofalu am rai materion personol, ac i adael i un o fy nghydweithwyr gymryd yr awenau. "Hoffwn ddiolch i'r Arweinydd a'r Cabinet am y gefnogaeth a gefais wrth ymgymryd â'r rôl, ac rwy'n gwybod y bydd yn parhau i fod mewn dwylo diogel gyda'r Cynghorydd Eugene Caparros a'r Cynghorydd Gary Haines."
"Hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Davies am y cyfraniad gwerthfawr y mae wedi'i wneud tuag at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac am y cyngor rhagorol a'r gefnogaeth ddiwyro y mae wedi'i roi i'w gydweithwyr yn y Cabinet a minnau fel Arweinydd."

Chwilio A i Y

Back to top