Balchder mam o gael cefnogaeth ei merched i faethu plant eraill
Dydd Mercher 22 Hydref 2025
Mae gofalwr maeth yn dweud ei bod "mor falch" o'r ffordd mae ei thair merch wedi gwneud i blentyn yn eu gofal deimlo fel "un o'r criw."
Fel rhan o Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (o 13 Hydref i 19 Hydref), mae gofalwyr Maeth Cymru Wrecsam yn rhannu straeon am y ffordd mae eu plant wedi helpu i wneud i'r rhai sydd yn eu gofal deimlo'n hapusach, eu bod yn cael eu croesawu, yn fwy diogel ac yn cael eu caru.
Mae rhai pobl yn dweud bod yr effaith bosibl ar eu plant yn un o'r rhwystrau rhag dod yn ofalwr maeth, ond mewn gwirionedd, mae llawer o blant yn gweld manteision i fod yn rhan o deulu sy'n maethu. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad sy’n cyfoethogi a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn canfod eu bod yn gallu datblygu eu cysylltiadau eu hunain gyda phlant sy'n cael eu maethu yn eu cartref nhw.
Mi wnaeth Amy a Rhys faethu person ifanc drwy Faethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr y llynedd, a dweud eu bod wedi cael eu syfrdanu gan gefnogaeth eu merched Georgia, 14, Grace, 12, a Gabi, wyth oed.
"Mae wedi ein gwneud ni mor falch," meddai Amy. "Maen nhw wedi ymddwyn mewn ffordd mor wych. Maen nhw wastad wedi helpu a’r ffordd maen nhw wedi dod i arfer. Maen nhw wedi bod yn wych."
Dywedodd Amy ei bod yn bwysig iddyn nhw gynnwys eu merched yn y broses faethu bob amser.
"Mi wnes i sôn amdano wrth y plant cyn i mi siarad â Rhys. Roedden nhw'n gadarnhaol iawn o'r dechrau, o'r ymweliad cyntaf â gweithiwr cymdeithasol.
"Maen nhw'n ei thrin fel un o'r criw. Mae'r hynaf wedi sôn bod y profiad wedi gwneud iddi deimlo'n fwy diolchgar am ei bywyd a'i helpu i sylweddoli nad yw pawb yn ei chael mor hawdd. Maen nhw'n gwerthfawrogi'n fawr yr hyn sydd ganddyn nhw."
Mae Rhys wedi bod yn ddiolchgar am faint o gefnogaeth y mae'r teulu wedi'i dderbyn gan y gymuned faethu.
"Rydyn ni'n aml yn mynd i'r boreau coffi lle mae'n gyfle gwych i'r plant ddod at ei gilydd i chwarae ac i ni ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor.
"Bod yn newydd i faethu mae yna lawer o bethau rydyn ni'n gorfod eu dysgu. Mae'r gymuned sydd gennym a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei gael gan ofalwyr maeth eraill, neu'r gweithwyr cymdeithasol wedi ein helpu hefo'r broses."
"Mae maethu yn daith arbennig sy'n cynnwys y teulu cyfan, ac mae'r rôl y mae plant geni yn aml yn un o'r elfennau mwyaf pwerus ac ysbrydoledig o'r stori honno. "Mae brodyr a chwiorydd maeth yn cynnig cyfraniad hynod gadarnhaol tuag at brofiad y plentyn/person ifanc maeth. Ym Maeth Cymru Pen-y-bont ar Ogwr rydym am ddathlu'r tosturi, y gwytnwch a'r gallu dwfn i gydymdeimlo y mae'r brodyr a chwiorydd maeth ifanc yn ei ddangos. Mae eu caredigrwydd yn helpu plant mewn gofal maeth i deimlo'n ddiogel, bod croeso iddynt ac wedi’u caru o'r eiliad y maent yn cyrraedd. "Mae plant fel Georgia, Grace, a Gabi yn ein hatgoffa bod maethu nid yn unig yn ymwneud â darparu cartref ond am adeiladu uned deuluol lle mae cariad a chefnogaeth yn sylfeini iddi. Mae clywed eu profiadau yn dangos i ni sut y gall maethu gyfoethogi bywydau pawb sy'n cymryd rhan, gan helpu i lunio dyfodol mwy disglair a chymunedau cryfach."
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i https://penybont.maethucymru.llyw.cymru/
Dewch i gwrdd â'ch tîm lleol o Faethu Cymru yn Ysbyty Tywysoges Cymru ddydd Iau 23 Hydref a dydd Mawrth 4 Tachwedd, 10am-3pm.