Barn trigolion i helpu i lunio'r camau nesaf ar reoli cŵn yn Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Dydd Iau 17 Medi 2026
Bydd canfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar fesurau arfaethedig i fynd i'r afael â baw cŵn a rheoli cŵn yn anghyfrifol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hystyried gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 22 Medi 2026.
Denodd yr ymgynghoriad, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, 1,273 o ymatebion a rhoddodd gyfle i drigolion godi pryderon ac awgrymu lle gallai fod angen camau pellach.
O'r rhai a ymatebodd, cytunodd 90.9 y cant y dylid gweithredu'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) arfaethedig ar gyfer rheoli cŵn.
Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r GDMC arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am gŵn:
• gasglu a gwaredu baw cŵn yn briodol;
• cario bagiau neu ddulliau addas eraill ar gyfer casglu baw cŵn; a
• rhoi ci ar dennyn pan fydd swyddog awdurdodedig yn eu cyfarwyddo i wneud hynny pan ystyrir bod y ci allan o reolaeth neu'n achosi pryder neu drallod.
Cododd nifer o ymatebwyr bryderon hefyd am baw cŵn ar feysydd chwarae a chaeau chwaraeon, gan gynnwys yr effaith bosibl ar ddiogelwch plant ac iechyd y cyhoedd, yn ogystal â gallu clybiau chwaraeon a chymunedau i wneud defnydd llawn o'r cyfleusterau hyn.
Mewn ymateb i'r safbwyntiau hyn, gofynnir i'r Cabinet hefyd ystyried a ddylai ymgynghoriad pellach gael ei gynnal ar GDMC ar wahân sy'n cwmpasu ardaloedd penodol lle gallai cyfyngiadau ychwanegol ar gŵn fod yn berthnasol.
"Mae barn trigolion a rhanddeiliaid allweddol yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i lunio ein penderfyniadau fel Cabinet. "Byddwn ni’n ystyried yr ymatebion sydd wedi’u derbyn yn ofalus i sicrhau bod unrhyw fesurau rydyn ni'n eu cyflwyno yn gymesur, yn ymarferol ac yn adlewyrchu anghenion ein cymunedau ledled y fwrdeistref sirol. "Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad am rannu eu barn a byddwn nawr yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad a'r cynigion a nodir yn yr adroddiad cyn penderfynu ar y camau nesaf priodol."