Busnes o Faesteg yn mwynhau llwyddiant yn uned dros dro Marchnad Maesteg

Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025

Mae busnes o Faesteg wedi mwynhau llwyddiant yn y fenter dros dro ym Marchnad Maesteg, diolch i dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor.

Mae Entwined Crafts by Pip, o Langynwyd, wedi bod yn Uned 14 am y tair wythnos diwethaf yn creu bagiau, clustogau, baneri bach ac ategolion pwrpasol eraill o ffabrig wedi'i ailgylchu, fel denim o hen jîns a ffabrigau diwedd-y-llinell o wneuthurwyr mawr. Mae pob eitem yn cael ei haddurno â rhubanau ac ategolion, gan sicrhau bod pob darn yn unigryw ac yn fforddiadwy i'w ddefnyddio bob dydd.

Rydym wedi mwynhau ein hamser yn y siop dros dro ac rydym mor ddiolchgar am y cyfle y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i roi i ni. Rydyn ni wedi cwrdd â phobl mor hyfryd sydd wedi mynegi cymaint o ddiddordeb yn ein heitemau llaw; diolch i Faesteg a’r cymunedau ehangach am ein cefnogi ar ein taith tuag at gael busnes yn yr ardal yn y dyfodol.
"Rydw i mor falch fod Phillipa wedi cael cymaint o lwyddiant gyda'r uned dros dro ym Maesteg, yn enwedig gan ei bod hi’n fusnes lleol ym Maesteg. Mae'r holl fusnesau sydd wedi bod yn y gofod hyd yma wedi bod yn wych ac mae wedi bod yn anhygoel gweld cymaint o bobl greadigol yn cymryd yr awenau yn yr Uned. Byddwn yn sicr yn argymell i unrhyw fusnesau sy'n chwilio am gyfle newydd i fynegi diddordeb yn yr uned."

Meddiannwr nesaf yr uned dros dro fydd Kakes by Kate, pobydd o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n arbenigo mewn brownis a blondis.

Mae'r tîm Datblygu Economaidd a Menter yn dal i chwilio am fusnesau sydd â diddordeb yn yr uned; gall busnesau gwblhau’r Ffurflen Datgan Diddordeb hon.

I gadw llygad ar y masnachwyr sydd ar ddod a gweld rhestr lawn o fasnachwyr y gorffennol, gallwch fynd i dudalen swyddogol yr uned ar ein gwefan.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Phillipa Young, perchennog Entwined Crafts by Pip y tu allan i Uned 14 ym Marchnad Maesteg.
Phillipa Young, perchennog Entwined Crafts by Pip y tu allan i Uned 14 ym Marchnad Maesteg.
Detholiad o fagiau wedi'u gwneud gan Phillipa.
Detholiad o fagiau wedi'u gwneud gan Phillipa.

Chwilio A i Y

Back to top