Busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i enwi ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru
Dydd Llun 02 Tachwedd 2026
Mae busnes ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei gefnogi gan y cyngor wedi cael ei enwi fel un o'r busnesau sy'n tyfu gyflymaf yng Nghymru ym Mynegai Twf Cyflym y DU 2026, ac wedi ennill y Wobr Twf Cynaliadwy bwysig.
Mae Tollgate Engineering Services Limited, sydd wedi'i leoli yn y Pîl ac sy'n gweithredu ers 2019, wedi cynyddu eu trosiant gan 95 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac o ganlyniad mae wedi cael ei gydnabod gyda'r Wobr Twf Cynaliadwy, ar ôl cael ei gynnwys ym Mynegai Twf Cyflym y DU am bedair blynedd yn olynol.
Mae'r busnes, sy'n arbenigo mewn peirianneg gwasanaethau adeiladu, yn darparu ystod lawn o wasanaethau peirianneg fecanyddol a thrydanol. Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio'n agos gyda gwneuthurwr tai modiwlaidd rhyngwladol ar ymchwil a datblygu prosesau i alluogi gweithgynhyrchu cartrefi modiwlaidd mewn sympiau mwy o faint.
Mae twf y cwmni wedi cael ei gefnogi gan berthnasoedd da gyda chleientiaid hirsefydlog, llwyddiant i ddenu busnes yn ôl atyn nhw dro ar ôl tro, a buddsoddiad parhaus yn eu gweithwyr a'u hoffer. Ym mis Mawrth 2025, derbyniodd Tollgate Grant Datblygu Busnes o £31,063.98 drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU tuag at gyfarpar eu hadeilad newydd ac offer TG newydd, ar ôl symud o Barc Ynni Baglan ym Mhort Talbot i Ystâd Ddiwydiannol Village Farm.
Roedd y buddsoddiad yn y cyfleuster swyddfa newydd yn sicrhau addasrwydd ar gyfer eu hanghenion a'u cynlluniau twf busnes yn y dyfodol, gan ddiogelu'r 17 o swyddi presennol a chreu swyddi pellach.
"Rydyn ni’n hynod falch o gael ein cydnabod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gan Mynegai Twf Cyflym y DU, a derbyn y Wobr Twf Cynaliadwy. Mae hwn yn gyflawniad gwych i ni, ac mae gallu cynnal y safon hon yn rhywbeth rydyn ni'n arbennig o falch ohono. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan, ochr yn ochr â chefnogaeth ac arweiniad ein cleientiaid a'n partneriaid."
"Mae llwyddiant Tollgate Engineering yn enghraifft wych o dalent ac uchelgais gan fusnes sydd wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ennill lle ar y mynegai eleni, yn ogystal â derbyn y Wobr Twf Cynaliadwy hefyd, yn rhywbeth y dylai'r tîm cyfan fod yn falch iawn ohono. Yn ystod cyfnod pan fo llawer o heriau yn wynebu busnesau'r DU, mae Tollgate yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd busnesau’n cael cyfle i ehangu eu busnes a ffynnu o ganlyniad. Rwy'n dymuno llwyddiant parhaus i'r tîm yn Tollgate dros y blynyddoedd ac rwy'n gyffrous iawn i weld beth fyddan nhw'n ei wneud nesaf."
I gael rhestr lawn o fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n ymddangos yn rhestr 50 Busnes Twf Cyflym Cymru 2026, ewch i Wefan Twf Cyflym y DU.