Busnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ffynnu gyda’r Grant Cychwyn Busnes
Dydd Mawrth 26 Awst 2025
Mae busnesau newydd ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i dderbyn cymorth i helpu gyda costau cychwyn diolch i Dîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Trwy bartneriaeth â UK Steel Enterprise, mae'r grant yn darparu cymorth ariannol i ficro-fusnesau newydd sydd wedi'u lleoli, neu sy'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ddiweddar, aeth y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynghorydd John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ymweliad â dwy enghraifft nodedig o'r busnesau hyn.
Mae RB Club, sydd ym Maesteg, yn un o'r busnesau sydd wedi cael cymorth drwy'r grant. Yn eiddo i Jack Wiles, dechreuodd y busnes yn 2023 yn creu hetiau bwced o grysau rygbi ac ers hynny mae wedi ehangu i gynhyrchu casgliad gwreiddiol o ddillad. Mae'r busnes eisoes yn dod yn enw cyfarwydd iawn ymhlith cefnogwyr rygbi ac mae gan y cwmni gynlluniau i symud i warws mwy o faint i helpu i ateb y galw am eu cynnyrch.
"Mae'r Grant Cychwyn Busnes gan y cyngor wedi bod yn gymorth enfawr i'r busnes ac wedi gwella ein cynhyrchiant yn sylweddol. Bu modd i ni uwchraddio ein hoffer a phrynu peiriant torri newydd i helpu i ateb y galw ac mae wedi haneru ein hamser cynhyrchu, gan roi mwy o amser i ni ddatblygu cynhyrchion newydd. Mae'r tîm Datblygu Economaidd a Menter wedi ein helpu bob cam o'r ffordd ac rydym mor ddiolchgar bod y gefnogaeth hon ar gael i ni."
Mae PoGo Bakery, yn Wyndham Street ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi bod yn gwerthu bara, rholiau selsig, pasteiod a danteithion melys newydd eu pobi o'u siop yn Wyndham Street, canol tref Pen-y-bont ar Ogwr ers mis Awst 2024. Dan ofal tîm mam a’i mab, Perry a Gareth Owen, y mae llythrennau cyntaf eu henwau’n ffurfio enw’r becws, wedi bod yn gwerthu mewn marchnadoedd bwyd dros dro ledled Cymru ac ar ôl penderfynu agor gofod masnachu ffisegol, dyfarnwyd cyllid o’r Gronfa Cychwyn Busnes iddyn nhw i brynu eitemau hanfodol i'w helpu gyda’u eu menter fusnes.
"Mae cefnogaeth y cyngor wedi bod yn allweddol i ni wrth agor ein siop gyntaf erioed yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Rydyn ni wedi bod eisiau cael ein siop ein hunain ers i ni ddechrau'r busnes, ac mae cael y grant wedi gwireddu hynny. Mae pawb wedi ein croesawu gyda breichiau agored, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweini ein danteithion i gwsmeriaid. Rydyn ni’n argymell bod unrhyw un sy'n dymuno dechrau busnes yn cysylltu â'r cyngor; maen nhw wedi bod yn anhygoel ac wedi ein helpu i drawsnewid ein busnes a dechrau masnachu o gyfeiriad go iawn!".
"Mae cwrdd â Jack, Perry a Gareth wedi bod yn brofiad gwych. Maen nhw'n gweithio mor galed ac maen nhw wedi troi eu syniadau cychwynnol yn fusnesau llwyddiannus iawn. Mae'r cymorth y mae'r cyngor wedi'i roi wedi caniatáu iddyn nhw ffynnu yn eu meysydd. Byddwn i wir yn argymell bod busnesau yn cysylltu â'r tîm ynghylch y grant."
"Mae sgwrsio â Perry a Gareth a gweld droson ni’n hunain sut mae'r Gronfa Cychwyn Busnes wedi eu helpu gyda'u becws wedi bod yn brofiad gwych. Mae'r cymorth sydd ar gael i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dangos ein hymrwymiad i helpu pobl i fod yn entrepreneuriaid a'u cefnogi yn eu taith fusnes. Mae PoGo Bakery ac RB Club yn enghreifftiau gwych o'r hyn y gellir ei gyflawni yma yn y sir."
Os ydych chi'n bwriadu dechrau busnes ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac am wybod mwy am gyfleoedd ariannu, cysylltwch â'r tîm Busnes yn businessfunds@bridgend.gov.uk.

