Cabinet i ystyried newidiadau i’r gwasanaeth byw â chymorth
Dydd Gwener 17 Gorffennaf 2026
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwrdd ar ddydd Mawrth 21 Gorffennaf i drafod cynlluniau ar gyfer newid sut mae'n darparu gwasanaethau byw â chymorth i bobl ag anableddau corfforol neu ddysgu, awtistiaeth ac anghenion cymhleth.
Gyda’r nod o helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, mae'r gwasanaeth byw â chymorth yn cynnig gofal a chymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i ymdopi ag anghenion bywyd o ddydd i ddydd, rheoli tai ac integreiddio cymunedol.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer saith ardal ddaearyddol – Pencoed, Maesteg, Tondu / Abercynffig, Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, Dwyrain Pen-y-bont ar Ogwr, y Pîl a Mynydd Cynffig, a Phorthcawl – ac ar hyn o bryd mae'n helpu cyfanswm o 89 o bobl.
O dan y cynigion newydd, mae'r cyngor eisiau parhau i ddefnyddio dull lleol ac hefyd ehangu'r gwasanaeth i alluogi cymorth i fod yn seiliedig ar anghenion yn hytrach na diagnosis.
Gyda'r contract presennol yn dod i ben, mae'r awdurdod yn bwriadu aildendro i ddarparwyr fydd yn gallu darparu cymorth sydd â phobl yn ganolog iddo, hyrwyddo annibyniaeth ac integreiddio cymunedol, a chynnig cymorth bob awr o’r dydd a’r nos.
Gan fod ymarfer ymgysylltu cyn mynd i’r farchnad eisoes wedi denu diddordeb mawr gan 17 darparwr posibl, gofynnir i'r Cabinet ystyried y cynigion, cytuno i ailgomisiynu'r Gwasanaeth Byw â Chymorth Cyffredinol, a gwahodd tendrau ar gyfer y gwaith ar sail pedair blynedd.
• I gael gwybod mwy a gweld yr agenda ar-lein, ewch i wefan y cyngor www.penybontarogwr.gov.uk