Cabinet yn cymeradwyo cynigion terfynol y gyllideb ar gyfer 2026-27
Dydd Mawrth 17 Chwefror 2026
• Buddsoddiad enfawr mewn ysgolion, ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau addysgol newydd eraill
• Mwy o gyllid ar gyfer addysg gydag ymrwymiad dwy flynedd i ddiogelu cyllidebau ar gyfer ysgolion
• Meysydd chwarae cymunedol newydd, ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, ardaloedd chwarae i blant a mwy
• Cyllid ychwanegol i fuddsoddi yn y rhwydwaith priffyrdd, trwsio tyllau ac atgyweirio diffygion ar y ffyrdd
• Cerbydau gwastraff ac ailgylchu newydd i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod ymhlith y gorau yng Nghymru
• Buddsoddiad newydd mewn prosiectau i drawsnewid ac adfywio ardaloedd canol trefi
• Buddsoddiad ychwanegol mewn cynlluniau i ailgartrefu pobl ddigartref
• Mwy o grantiau gwella cartrefi i helpu pobl anabl a’r henoed i fyw'n annibynnol
• Cartref preswyl newydd sbon i gynnig gwell cymorth i blant sy'n agored i niwed
• Cynnydd is na’r disgwyl yn y dreth gyngor o 4.7 y cant
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar ei gynigion terfynol ar gyfer cyllideb 2026-27. Wedi'u datblygu ar ôl dadansoddi adborth o broses ymgynghori â’r cyhoedd a chraffu drylwyr, bydd y cynigion nawr yn mynd ymlaen i'w cymeradwyo'n derfynol mewn cyfarfod y Cyngor ar 25 Chwefror 2026.
Os caiff ei chymeradwyo gan y Cyngor ac ar ôl ystyried pwysau cyllidebol o £13.6 miliwn yn ogystal â gostyngiadau angenrheidiol o ychydig dros £2.3 miliwn, y gyllideb refeniw net ar gyfer darparu dros 800 o wasanaethau i gymunedau lleol yn ystod 2026-27 fydd £408 miliwn.
O'r ffigur hwn, bydd o leiaf £164 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau a ddarperir gan dimau Addysg, y Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc. Bydd dros £124 miliwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, ac o leiaf £37 miliwn ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan Gymunedau.
Bydd gwasanaethau eraill, sy'n cynnwys tai a diogelwch cymunedol, yn derbyn £29 miliwn, gyda swyddogaethau fel cynllun gostyngiad y dreth gyngor a rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn yn derbyn £55 miliwn.
Mae cynnydd yn y dreth gyngor o 4.7 y cant hefyd wedi'i gynnig – sy’n is na'r 4.95 y cant a ragwelwyd yn wreiddiol, ac sy'n cyfateb i £1.73 ychwanegol yr wythnos ar eiddo Band D.
"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn 'Amser i Siarad', ein proses ymgynghori ar y gyllideb, ac am ddarparu adborth gwerthfawr ar y cynigion, yr ydym wedi ceisio eu hadlewyrchu cymaint â phosibl yn ystod y broses o wneud penderfyniadau. "Mae eich adborth yn arbennig o werthfawr o ystyried bod y cyngor wedi gorfod llunio cyllideb gytbwys bob blwyddyn ers dechrau cynni yn 2010, tra hefyd yn gwneud arbedion o dros £96.7 miliwn. "Nid yw hon erioed wedi bod yn broses hawdd, ond mae rheoli ein hadnoddau’n ddarbodus unwaith eto wedi helpu i bennu cyllideb gytbwys sy'n cydnabod ac yn diogelu'r gwasanaethau y mae trigolion yn eu gwerthfawrogi fwyaf, ac rwy'n falch o weld y cynigion diweddaraf hyn yn mynd gerbron y Cyngor am benderfyniad terfynol."
"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i chwarae rôl amlwg yn economi leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae ein cynigion cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod wedi'u cynllunio i ysgogi twf a ffyniant tra hefyd yn diogelu'r aelodau mwyaf agored i niwed o'r gymuned. "Rydym unwaith eto wedi buddsoddi'n helaeth mewn addysg, gan gynnwys cyllid Llywodraeth Cymru yn ogystal â'r Cyngor, mae £37 miliwn wedi'i nodi ar gyfer ysgolion yng nghlwstwr gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnwys disodli ysgolion cynradd Afon y Felin a Corneli ac ehangu a disodli Ysgol y Ferch o'r Sgêr. "Bydd £19 miliwn arall yn cael ei buddsoddi mewn ysgol arbennig newydd Heronsbridge, £7.8 miliwn mewn Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig, £6.2 miliwn ar gyfer Ysgol Bro Ogwr newydd, ac estyniad gwerth £2.3 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Coety. "Yn ogystal, dros £6 miliwn wedi'i gynnig ar gyfer meysydd chwarae newydd, ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, parciau sglefrio a mwy, a byddwn yn uwchraddio rhagor o ardaloedd chwarae i blant ar draws y fwrdeistref sirol. "Gyda chynlluniau i ddychwelyd y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn fewnol, mae £6 miliwn wedi'i neilltuo i brynu cerbydau casglu newydd a fydd yn helpu i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn un o'r ardaloedd sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran mynd i’r afael â gwastraff. "Mae cynlluniau mawr ar waith ar gyfer ein canol trefi, a byddwn yn buddsoddi £4.2 miliwn i helpu i’w trawsnewid. Byddwn hefyd yn gwario £3.6 miliwn ar ffyrdd a phalmentydd ledled yr ardal, a £2.5 miliwn ar gyfer ein rhaglen adnewyddu priffyrdd fesul cam. Mae ein cynigion cyllideb hefyd yn cefnogi'r ardal gyhoeddus drwy fuddsoddiad sy'n canolbwyntio ar wasanaethau allweddol fel glanhau strydoedd a gwella ein hamgylchedd lleol. "Rydym hefyd yn bwriadu buddsoddi £2.2 miliwn i helpu i ddarparu cyfleusterau i'r anabl sy'n helpu pobl agored i niwed a phobl oedrannus i barhau i fyw'n annibynnol gartref. "Mae'r gyllideb hon yn hynod uchelgeisiol yn ei dymuniad i fuddsoddi yn y gymuned tra hefyd yn parhau i fod yn realistig ynghylch y pwysau rydyn ni'n parhau i'w wynebu. Rwy'n credu ei fod yn taro'r cydbwysedd cywir ar gyfer darparu gwasanaethau cyngor yn llwyddiannus ar gyfer 2026-27, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cael ei gydnabod a'i gymeradwyo gan y Cyngor."
Bydd cynigion y gyllideb nawr yn mynd gerbron y Cyngor ar 25 Chwefror 2026 i’w trafod a’u cymeradwyo’n derfynol.