Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau ehangu Ysgol Gynradd Coety
Dydd Llun 02 Hydref 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Coety yn dilyn canlyniad rhybudd statudol.
Bydd hyn yn arwain at gapasiti’r ysgol yn cynyddu o 420 i 525 o leoedd ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed.
Nododd gwerthusiad opsiynau blaenorol yr angen i gynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol a chanfuwyd mai estyniad deulawr, pedair ystafell ddosbarth oedd yr opsiwn a ffefrir. Bydd pob ystafell ddosbarth newydd yn cyrraedd targedau carbon sero net mewn perthynas ag adeiladu a gweithredu.
Bydd cyfle hefyd i gynyddu darpariaeth feithrinfa dry ychwanegu 12 lle llawn amser ychwanegol. Mae hyn yn golygu y bydd 75 o leoedd llawn amser i ddisgyblion rhwng 3-4 oed a 9 lle rhan amser arall i ddod â’r cyfanswm i 84.
Bydd yr iard bresennol hefyd yn cael ei hymestyn, a bydd cyrtiau chwaraeon yn cael eu paentio ar fannau awyr agored. Bydd hyn yn helpu i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion yn yr ysgol.
Yn ogystal, bydd cyfleusterau’r ysgol yn rhoi cyfle i gynnig cyrsiau Cymraeg i rieni/gofalwyr ac yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr awdurdod lleol, sy’n anelu at gynyddu nifer y cyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael.
Mae ehangu Ysgol Gynradd Coety yn brosiect pwysig iawn sy’n helpu i sicrhau bod yr ysgol yn adlewyrchu’r twf parhaus yn yr ardal tra’n gwneud y mwyaf o’r dewis sydd ar gael i rieni/gofalwyr a dysgwyr. Bydd y cynlluniau yn y pen draw yn golygu y bydd mwy o ddysgwyr yn cael y dewis i fynychu eu hysgol fwyaf lleol, ac yn aml gall hyn gael effaith sylweddol ar addysg unigolyn. Rydym hefyd yn cynnig ail-leoli ac ehangu Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr gerllaw i safle newydd sbon. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa o’r dewis o addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg o ansawdd uchel.
Bydd cais cynllunio nawr yn cael ei gyflwyno wrth i’r prosiect symud ymlaen i’w gam nesaf.