Cabinet yn cytuno i chwilio am ddatblygwr ar gyfer ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd
Dydd Iau 05 Chwefror 2026
Mae cynlluniau i sefydlu ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd a chyfleusterau gofal plant ym Mhorthcawl wedi symud gam yn nes ar ôl sicrhau cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wahodd tendrau i'w hadeiladu.
Bydd yr ysgol egin newydd yn cynnwys 30 o leoedd meithrin cyfwerth ag amser llawn a 30 o leoedd derbyn. Disgwylir iddi agor yn 2027, bydd yn cael ei gweithredu a'i llywodraethu gan Ysgol y Ferch o'r Sgȇr gyda disgyblion yn pontio i'r ysgol honno ym Mlwyddyn Un i gwblhau eu haddysg gynradd.
Bydd y trefniant hwn ar waith hyd nes y gellir sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon i wasanaethu ardal Porthcawl fel rhan o fand yn y dyfodol o'r rhaglen foderneiddio ysgolion barhaus.
Ar yr un pryd, bydd darparwr preifat yn cael ei geisio i weithredu cyfleuster gofal plant newydd yr ysgol egin. Gan gynnig 22 o leoedd gofal plant cyfwerth ag amser llawn, bydd hwn yn darparu ar gyfer babanod a phlant hyd at bedair oed yn ogystal â chynnig darpariaeth gofal ar y safle ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.
Rydym yn cychwyn ar gamau olaf yr ymdrechion i ddarparu'r ysgol egin newydd a chyfleusterau gofal plant ar gyfer Porthcawl, ac mae sefydlu'r broses ar gyfer penodi datblygwr yn garreg filltir bwysig arall wrth i ni geisio cyflawni ein haddewid i gefnogi addysg Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae cymeradwyaeth heddiw yn golygu y gall proses dendro lawn bellach fynd rhagddi fel y gellir penodi datblygwr yn ffurfiol. Unwaith y bydd caniatâd cynllunio ar waith, a bod gennym gadarnhad terfynol gan Lywodraeth Cymru ar y cyllid ar gyfer y cynllun, gall gwaith ddechrau ar y safle i ddarparu'r cyfleusterau addysgol newydd hyn.