Cadarnhawyd swyddi'r Arweinydd a'r Cabinet yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor ar gyfer 2026-27
Dydd Iau 14 Mai 2026
Cyfarfu aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Ddydd Mercher 13 Mai ar gyfer Cyfarfod Blynyddol y Cyngor i gadarnhau swyddi Arweinydd a’r Cabinet ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac i ethol Maer a Dirprwy Faer newydd.
Dychwelwyd y Cynghorydd John Spanswick yn Arweinydd yr awdurdod, a chadarnhawyd swyddi canlynol y Cabinet hefyd:
- Dirprwy Arweinydd / Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles - y Cynghorydd Jane Gebbie
- Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid – y Cynghorydd Hywel Williams
- Aelod Cabinet dros Addysg a Phobl Ifanc - y Cynghorydd Martyn Jones
- Aelod Cabinet dros Gymunedau a'r Amgylchedd (Rhannu Swydd) – y Cynghorydd Eugene Caparros a'r Cynghorydd Gary Haines
- Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol – y Cynghorydd Melanie Evans
- Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai – y Cynghorydd Colin Davies
Bydd y Cynghorydd Heidi Bennett yn olynu'r Cynghorydd Huw David fel Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2026-27, a bydd y Cynghorydd Elaine Winstanley yn gweithredu fel Dirprwy Faer. Maer Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fydd Phoebe Evans, a bydd Adam Cloutier yn gwasanaethu fel Dirprwy Faer Ieuenctid.
"Hoffwn ddiolch i'r aelodau am fy nychwelyd fel Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ymgymryd â'r rôl hon yn fraint a chyfrifoldeb eithriadol, ac rwyf am eich sicrhau y byddaf yn rhoi fy holl sylw a ffocws iddo, a byddaf bob amser yn gwneud fy ngorau glas i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. "Rwy'n cael cefnogaeth fedrus gan fy nghydweithwyr yn y Cabinet, ac rwy'n ddiolchgar am eu cymorth a'u hymroddiad diwyro. Hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt am yr holl waith gwych a wnaed yn eu portffolios trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. "Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged arbennig i'r Cynghorydd Farr gan ei bod wedi dangos gwasanaeth cyhoeddus anhunanol yn ystod ei chyfnod fel aelod o'r Cabinet, a diolch iddi am y cyfraniad gwerthfawr y mae wedi'i wneud. "Hoffwn groesawu'r Cynghorydd Colin Davies i'r Cabinet. Mae gan y Cynghorydd Davies gefndir mewn gwaith cymdeithasol, datblygu cymunedol, cyflogadwyedd ac adfywio, ac rwy'n siŵr y bydd yn gallu defnyddio ei brofiad i'w helpu i berfformio yn ei rôl newydd. "Rwy'n hyderus, gyda'r tîm hwn yn ei le, y gallwn barhau i adeiladu ar ein cyflawniadau yn y flwyddyn ddiwethaf, ac ateb heriau'r dyfodol."