Cadarnhawyd y dyddiad ar gyfer dechrau mynediad estynedig yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mawrth 07 Ebrill 2026

Bydd oriau llwytho a dadlwytho estynedig i fusnesau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cyflwyno, ynghyd â mannau parcio newydd i ddeiliaid Bathodynnau Glas o ddydd Iau 9 Ebrill 2026. 

Mae'r newidiadau, sy’n rhan o gynllun arbrofol 18 mis, wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau wrth hefyd wella hygyrchedd i breswylwyr. 

Dan y cynllun, bydd yr oriau llwytho a dadlwytho presennol rhwng 10am a 6pm yn cael eu diweddaru i fod rhwng 11am a 4pm er mwyn cydbwyso anghenion danfonwyr, busnesau a cherddwyr yn well yn ystod cyfnodau brig.

Ar yr un pryd, bydd mannau parcio ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas yn cael eu gosod ar hyd Derwen Road i gynnig gwell mynediad i ddeiliaid bathodynnau cofrestredig fel rhan o ddull mwy cynhwysol a hyblyg o barcio yng nghanol y dref.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro'n ofalus a'i adolygu'n rheolaidd, a bydd addasiadau yn cael eu gwneud lle y bo angen, gan ddefnyddio adborth gan fusnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill i sicrhau y gall y newidiadau ddarparu'r budd mwyaf posib.

Maent wedi eu cyflwyno yn unol â nodau Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, a chanlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ynghylch sut mae pobl am gael mynediad i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, a’i defnyddio.  

Nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Fel rhan o'r newidiadau hyn, mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar gyflwyno gwell mynediad i feiciau i ganol y dref, ac rydym yn ceisio cyflwyno mwy o hyblygrwydd a chefnogaeth i ddigwyddiadau canol y dref i'w gwneud hi'n haws cynnal a rheoli ystod ehangach o weithgareddau. Bydd diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn brif bryder yn y mater hwn, wrth i ni geisio creu amgylchedd mwy bywiog a chroesawgar i breswylwyr, ymwelwyr a busnesau fel ei gilydd.

Chwilio A i Y

Back to top