Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Cae wedi'i uwchraddio yn rhoi hwb i chwaraeon cymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Gwener 04 Medi 2026
Mae buddsoddiad chwe ffigwr wedi trawsnewid cae chwaraeon artiffisial yn Ysgol Gyfun Bryntirion, gan greu cyfleuster o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion, timau llawr gwlad a chymuned ehangach Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cyfleuster ar ei newydd wedd wedi'i ddarparu drwy gyllid gan Sefydliad Pêl-droed Cymru, Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Chwaraeon Cymru a'r Gronfa Ysgolion Bro, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r buddsoddiad chwe ffigwr wedi disodli cae artiffisial blaenorol yr ysgol gyda chyfleuster modern sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gweithgaredd cwricwlwm wrth ddarparu cyfleoedd gwell ar gyfer chwaraeon llawr gwlad a chymunedol ehangach.
Mae'r cyfleuster wedi'i uwchraddio bellach yn cynnwys arwyneb 3G maint llawn, ffensys a physt gôl newydd, llochesau modern a llifoleuadau wedi'u huwchraddio.
Mae parth gwylwyr pwrpasol a llwybr hefyd wedi'u cyflwyno, gan greu gofod croesawgar a hygyrch i ddisgyblion, chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr er mwyn mwynhau'r cyfleuster.
Gan ychwanegu cysylltiad lleol a diwylliannol cryf i'r cyfleuster newydd, mae murlun sy'n dathlu cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Laura McAllister a Gwennan Harries, a anwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, hefyd wedi'i ddadorchuddio.
"Mae hon yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn dod at ei gilydd gydag uchelgais ar y cyd i fuddsoddi yn ein cymunedau ac yn nyfodol pobl ifanc ar draws y fwrdeistref sirol. "Drwy drawsnewid y cae chwaraeon artiffisial yn Ysgol Gyfun Bryntirion, rydyn ni nid yn unig yn gwella cyfleoedd i ddisgyblion fod yn actif a mwynhau chwaraeon fel rhan o'u haddysg, ond hefyd yn creu cyfleuster cymunedol o ansawdd uchel y gellir ei ddefnyddio gan drigolion lleol, timau llawr gwlad a chlybiau chwaraeon am flynyddoedd i ddod. "Hoffen ni ddiolch i Sefydliad Pêl-droed Cymru, Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru am weithio'n agos gyda'n tîm Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'n cefnogi i helpu i ddod â chymunedau at ei gilydd ac annog pobl o bob oed i gadw'n heini."
"Mae'r cyfleusterau newydd ym Mryntirion yn crynhoi pwrpas Sefydliad Pêl-droed Cymru – buddsoddi mewn cyfleusterau o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled Cymru sydd eu hangen fwyaf. "Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth y DU, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Uwch Gynghrair am eu cymorth parhaus – gyda'n gilydd rydyn ni’n gweithio i wella pêl-droed Cymru ar y cae ac oddi arno."
"Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod pobl ledled y DU yn gallu mwynhau manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol chwaraeon ac ymarfer corff. "Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi mwy na £400 miliwn i adeiladu ac uwchraddio cyfleusterau ar lawr gwlad mewn ardaloedd ledled y DU sydd eu hangen fwyaf. "Bydd y buddsoddiad hwn o £400,000 yn helpu i ysbrydoli disgyblion Bryntirion a gwasanaethu'r ardal leol fel bod gan bobl leol le o safon uchel i chwarae a bod yn actif yng nghanol y gymuned."