Cais i gadw traethau’n lân dros ŵyl y banc wrth i dywydd poeth ddenu torfeydd

Dydd Gwener 02 Mai 2025

Mae ymwelwyr sy'n bwriadu manteisio ar y tywydd braf gyda thaith i lan y môr dros ŵyl y banc yn cael eu hannog i waredu eu sbwriel yn iawn.

Daw'r cais cyn gŵyl banc mis Mai wrth i Borthcawl baratoi i groesawu twristiaid, ymwelwyr a theithwyr dydd sydd am fwynhau arfordir trawiadol y dref ac yn dilyn adroddiadau fod rhai traethau eisoes yn profi problemau sbwriel, yn amrywio o becynnau bwyd a diod i boteli gwydr a barbeciws tafladwy.

"Mae Porthcawl yn lle gwych i fyw neu ymweld ag ef, ac mae'n cynnig golygfeydd godidog, sawl traeth gwych ac amodau syrffio gwych. "Mae'n parhau i fod yn gyrchfan ymwelwyr boblogaidd, yn enwedig yn ystod y misoedd cynhesach, ac mae nifer eang o sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed i sicrhau y gall pawb fwynhau eu taith i lan y môr. "Mae croeso mawr i bob ymwelydd sy'n ymddwyn yn gyfrifol, aros yn ddiogel, a naill ai’n rhoi eu sbwriel mewn biniau neu'n mynd ag ef adref gyda nhw pan fydd eu hymweliad drosodd. "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae biniau sbwriel ychwanegol wedi cael eu gosod, ac er eu bod yn gallu llenwi'n gyflym, maen nhw hefyd yn cael eu gwagio'n rheolaidd. Os yw bin yn digwydd bod yn llawn, peidiwch â gwneud eich sbwriel chi’n broblem i rywun arall – ewch ag ef adref gyda chi i’w waredu. "Yn yr un modd, meddyliwch ddwywaith cyn tanio barbeciw tafladwy oherwydd gall y rhain aros yn boeth am sawl awr ar ôl eu defnyddio. Mae nifer o finiau barbeciw gwrth-dân wedi'u gosod mewn sawl lleoliad allweddol, felly does dim esgus dros eu gadael ar y traeth. "Os yw'n rhy boeth i'w gario i fin barbeciw pwrpasol, oerwch y glo gyda dŵr môr yn gyntaf. Os na allwch ddod o hyd i fin barbeciw, ar ôl iddo oeri rhowch yr hambwrdd a'i gynnwys mewn bag addas, a gwaredwch y barbeciw yn ddiogel gartref neu mewn bin sbwriel. "Peidiwch byth â chladdu glo barbeciw poeth o dan dywod na’i arllwys ar greigiau gan y gall hynny achosi anafiadau difrifol i ddefnyddwyr eraill y traeth. Ni ddylent byth â chael eu gadael ar y traeth chwaith, oherwydd gall y llanw wahanu'r gril o'r hambwrdd ffoil ac achosi anafiadau os bydd rhywun yn sefyll arnynt yn droednoeth. “Cofiwch na chaniateir cŵn yn Rest Bay, Traeth y Dref, Traeth Coney na Bae Treco rhwng 1 Mai a 30 Medi, ond mae croeso iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn ar Draeth Newton, Bae Pinc, Thraeth y Sgêr. "Gydag ychydig o ymdrech, gallwn ni i gyd helpu i sicrhau bod glan y môr, traethau a baeau Porthcawl yn parhau’n lân a dymunol i bawb."

Chwilio A i Y

Back to top