Canlyniadau gwasanaeth gofal Pen-y-bont ar Ogwr 'ymhlith y gorau yng Nghymru'
Dydd Iau 27 Awst 2026
Mae gwasanaethau sy'n helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth ac i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach wedi cael eu disgrifio fel rhai o’r gorau y gall Cymru eu cynnig yn dilyn adroddiad disglair gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Ymwelodd arolygwyr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhwng mis Mai a mis Mehefin i asesu'r Gwasanaeth Gofal Cartref a dyfarnodd y sgôr uchaf o 'Rhagorol' iddo am ei drefniadau arweinyddiaeth a rheoli, ansawdd ei ofal a'i gymorth, ac am ei lefelau lles.
Gan weithio gyda phobl ar draws lleoliadau byw â chymorth, cyfleusterau gofal ychwanegol ac yn eu cartrefi eu hunain, mae'r gwasanaeth yn eu helpu i fyw'n annibynnol wrth dderbyn cymorth hanfodol gyda thasgau a allai gynnwys gofal personol, meddyginiaeth neu dasgau o ddydd i ddydd o gwmpas y cartref.
Dywedodd yr arolygwyr fod y gwasanaeth wedi cynhyrchu canlyniadau 'rhagorol' i bobl leol ac wedi eu helpu i fyw'n annibynnol wrth barhau i wneud eu dewisiadau eu hunain am eu bywydau. Canfuwyd bod staff yn meithrin perthnasoedd cryf a llawn ymddiriedaeth wrth ddarparu cymorth hynod bersonol, ac roedd adborth gan bobl sy'n derbyn gwasanaethau yn dangos sut roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u clywed.
Mae gofal wedi'i deilwra'n benodol i ddiwallu anghenion a chyflawni nodau pob person, ac mae ffocws cryf ar helpu pobl i gynnal neu adennill eu hannibyniaeth. Mae staff hefyd yn gweithio'n agos gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i gyflawni'r canlyniadau gorau, ac mae ganddynt systemau effeithiol ar waith ar gyfer rheoli meddyginiaethau, cynllunio gofal a monitro iechyd.
Tynnwyd sylw hefyd at ansawdd y staff sy'n darparu'r Gwasanaeth Gofal Cartref fel un uchel iawn, gyda threfniadau diogelu cryf ar waith i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel bob amser.
"Mae derbyn y sgôr uchaf posibl gan Arolygiaeth Gofal Cymru, heb unrhyw feysydd wedi'u nodi i'w gwella, yn gyflawniad rhagorol ac yn un y dylai pawb sy'n rhan o’r gwasanaeth fod yn hynod falch ohono. "Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu proffesiynoldeb, tosturi ac ymrwymiad diwyro ein staff Gofal Cartref, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd. Maent yn meithrin perthnasoedd dibynadwy gyda rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan eu helpu i fyw'n annibynnol, cynnal eu hurddas ac aros lle byddent yn dewis bod – yn eu cartrefi eu hunain. Mae eu hymroddiad wrth wraidd y llwyddiant hwn. "Hoffwn hefyd gydnabod y timau arweinyddiaeth a rheoli y mae eu gweledigaeth, eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i welliant parhaus wedi helpu i greu gwasanaeth sydd bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r gorau yng Nghymru. "Mae'r cyflawniad hwn hefyd wedi'i wneud yn bosibl trwy fuddsoddiad a chymorth parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i aelodau etholedig, sy'n parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu a chryfhau gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion er gwaethaf yr heriau sylweddol sy'n wynebu'r sector. "Mae derbyn sgôr 'Rhagorol' ym mhob maes a aseswyd yn gymeradwyaeth aruthrol o ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu ar ran pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. "Ar ran y Cyngor, diolch o galon a llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan o’r gwasanaeth am y cyflawniad rhyfeddol hwn."