Canlyniadau Safon Uwch yn codi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i Ddosbarth 2025 ddathlu eu llwyddiannau

Dydd Gwener 15 Awst 2025

Mae ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ymdrechion dysgwyr a staff, gyda chanlyniadau Safon Uwch yn rhagori ymhob dangosydd allweddol o'i gymharu â 2024. 

Bu llawer o lwyddiannau unigol gyda llawer o fyfyrwyr yn sicrhau lle yn y brifysgol oedd yn ddewis cyntaf iddyn nhw, a bydd eraill yn dilyn llwybrau gwahanol fel mynd i'r byd gwaith, dechrau prentisiaeth, neu fynd i'r coleg i barhau i astudio. 

Un o blith llwyddiannau niferus disgyblion yw hanes Thomas Joyner, disgybl yn Ysgol Maesteg, a gafodd canlyniadau Safon Uwch unigol gorau erioed ei ysgol, sef 5 gradd A* mewn Bioleg, Cemeg, Cerddoriaeth, Ffotograffiaeth a Bagloriaeth Cymru. Bydd yn mynd yn ei flaen i astudio meddygaeth yn Imperial College, Llundain. 

"Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r canlyniadau y mae ein myfyrwyr wedi'u sicrhau eleni. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i'w gwaith caled, eu penderfyniad, a chefnogaeth ddiwyro ein staff a'n teuluoedd. Dylai’r myfyrwyr i gyd fod yn hynod falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. "Mae canlyniadau eleni yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol at ragoriaeth academaidd ac addysg gynhwysol. Enillodd nifer sylweddol o fyfyrwyr raddau A* ac A, gyda llawer yn rhagori ar eu targedau personol ac yn symud yn eu blaen i gyrsiau cystadleuol mewn meddygaeth, peirianneg, y celfyddydau a gwyddoniaeth."
"Mae Brynteg yn parhau i hyrwyddo ymagwedd gyfannol at addysg, gan ddathlu cyflawniad academaidd a thwf personol, arweinyddiaeth a chreadigrwydd. "Bydd llawer o'n disgyblion nawr yn symud yn eu blaen i brifysgolion, prentisiaethau a llwybrau gyrfa cyffrous, gyda'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu. Rydyn ni'n hynod falch."
"Rwy'n falch iawn o weld canlyniadau Safon Uwch yn gwella ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a hoffwn dynnu sylw at waith caled yr holl ddisgyblion a staff. "Rwy'n dymuno'r gorau at y dyfodol i'n dysgwyr i gyd, ac mae'n wych clywed am eu cynlluniau amrywiol ac eang. Os ydych chi'n dal i benderfynu ar eich camau nesaf, mae yna bobl all eich helpu. Mae Gyrfa Cymru, eich ysgol neu eich coleg yn lleoedd gwych i ddechrau.”

Cynghorir disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol neu na chafodd y canlyniadau roedden nhw wedi gobeithio i:

  • Siarad a’ch ysgol all gynnig cyngor a chefnogaeth ar ba opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Ewch i Wefan Gyrfa Cymru lle mae llawer  o adnoddau ar gael i helpu.
  • Edrychwch ar rai o'r swyddi gwag presennol ar Wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Ystyriwch brentisiaeth lle gallwch weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, ennill cyflog, a datblygu eich sgiliau – ewch i Wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Disgyblion Ysgol Brynteg yn dathlu eu canlyniadau.

Chwilio A i Y

Back to top