Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Canolfan Fywyd Halo Cwm Ogwr yn dathlu 30 mlynedd!
Dydd Gwener 19 Mai 2023

Yn llythrennol, mae Canolfan Fywyd Cwm Ogwr yn guriad calon y gymuned, ac ers 30 mlynedd mae wedi bod yn rhan annatod o fywydau’r rhai sy’n byw yn y gymuned honno.
Mae’r Ganolfan wedi cyflawni cymaint, gan adlewyrchu ymrwymiad y staff i’r trigolion lleol. Llwyddodd y Ganolfan i ennill gwobr ‘Canolfan Halo y Flwyddyn ar gyfer 2022’, a hefyd cyflwynwyd Scott Hancock, y Rheolwr Cyffredinol, a Betty Kerry, gwirfoddolwraig uchel ei pharch, â gwobrau unigol yn y seremoni ar sail eu hymdrechion.
Gall y ganolfan ddarparu ar gyfer pawb. Yma, mae un o’r mamau’n esbonio sut y mae pob un o’i thri phlentyn yn elwa ar y Ganolfan Fywyd: “Mae fy mhlentyn hynaf yn defnyddio’r gampfa, mae fy mhlentyn ieuengaf yn mwynhau’r sesiynau Bownsio a Chwarae ac mae fy mhlentyn canol yn gwneud yn fawr o’r sesiynau niwroamrywiol er mwyn archwilio gweithgareddau corfforol mewn lle diogel, heb feirniadaeth.”
Yn ôl Kathleen O’Callaghan, un o wirfoddolwyr y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar gyfer Cwm Ogwr: “Mae cael cefnogaeth y grŵp yma yn y ganolfan yn rhoi tawelwch meddwl i’r plant, ac i’r rhieni hefyd – mae cyngor a chymorth hygyrch ar gael yma.”
Medd Scott Hancock: “Ers imi ddod yn Rheolwr Cyffredinol ym mis Medi 2020, rydym wedi parhau i ddatblygu’r cysylltiadau a grëwyd gydag elusennau lleol, yn cynnwys Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Ogwr, Balchder Ogwr a grŵp Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr (OVSA). Mae pob un ohonom yn ymdrechu ac yn llwyddo i wneud Cwm Ogwr yn lle gwell i fyw ynddo – gyda chymorth diddiwedd gan Gyngor Cymuned Cwm Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.”
Rydw i’n aelod balch o’r gymuned ac rydw i’n awyddus i dynnu sylw at ymdrechion y staff, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol a gaiff y ganolfan ar fywydau pobl sy’n byw yng Nghwm Ogwr. Mae’n lle twymgalon a chroesawgar. Mae rhyw egni yn perthyn iddo, ac mae hynny’n gwneud i bobl eisiau dychwelyd yno dro ar ôl tro – a does neb cystal â Betty am wneud dishgled o de!