Casgliadau gwastraff ac ailgylchu i ddechrau'n gynharach oherwydd y gwres eithafol
Dydd Mawrth 23 Mehefin 2026
Gofynnir i drigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr roi eu gwastraff a'u hailgylchu allan yn gynt nag arfer ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon (24 a 25 Mehefin) er mwyn helpu i ddiogelu criwiau gwastraff ac ailgylchu rhag y gwres eithafol ac i leihau'r siawns o fethu â chwblhau casgliadau.
Disgwylir i gasgliadau ddechrau tua 4.30am a chynghorir pob preswylydd i roi eu gwastraff a'u hailgylchu allan y noson cyn eu dyddiad casglu arferol.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd gwres coch ar 24 a 25 Mehefin, gan ragweld y bydd y tymheredd yn codi i hyd at 37°C.
“Mae hwn yn benderfyniad rhagweithiol sy’n helpu i leihau’r siawns o fethu â chwblhau rowndiau ac sy’n blaenoriaethu iechyd a diogelwch criwiau gwastraff ac ailgylchu. “Rydym yn gofyn i drigolion chwarae eu rhan drwy roi eu gwastraff a’u hailgylchu allan yn gynharach, a byddwn yn ymdrechu i wneud cyn lleied o sŵn â phosibl yn ystod yr oriau casglu cynharach. “Byddem hefyd yn ei werthfawrogi pe bai trigolion y bydd hyn yn effeithio arnynt yn rhoi gwybod i’w cymdogion am y newidiadau dros dro ac yn ein helpu ni i ledaenu’r neges o gwmpas eu cymunedau lleol.”