Crochenydd lleol yn gweld llwyddiant busnes mewn uned dros dro ym Marchnad Maesteg
Dydd Llun 16 Mehefin 2025
Mae ail fusnes Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld llwyddiant drwy fenter dros dro o’r enw 'For a Limited Time Only...?' ym Marchnad Maesteg diolch i dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor.
Mae Mudwerx Bespoke Pottery, o’r Pîl, yn fusnes creadigol sydd wedi'i wreiddio yng ngrym therapiwtig clai. Mae’n cynnal amrywiaeth o weithdai a dosbarthiadau cymunedol yn yr uned dros dro, ochr yn ochr â chwblhau crochenwaith pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid lleol a chenedlaethol.
Roedd y gweithdai rhyngweithiol yn cynnwys taflu clai, paentio crochenwaith ac arddangosiadau byw o'r olwyn grochenwaith, a fu’n boblogaidd ymhlith oedolion a phlant o bob lefel o brofiad
"Rwy'n hynod ddiolchgar i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr am y cyfle gwych i fod yn rhan o'r fenter siop dros dro. Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael tra’n meddiannu’r uned wedi bod heb ei ail. Fel busnes bach sy'n dal i gael ei draed oddi tano, mae cael y cyfle i arddangos fy ngwaith a chynnal gweithdai mewn gofod pwrpasol wedi fy ngalluogi i godi ymwybyddiaeth o Mudwerx, magu fy hyder wrth redeg busnes a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd." "Mae'r profiad wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl wych - o gwsmeriaid a chyd-fasnachwyr i ffrindiau newydd a chydweithwyr yn y dyfodol. Mae wedi rhoi hwb go iawn i’m hyder ac yn gam enfawr ymlaen ar ôl blynyddoedd o weithio o fy stiwdio ardd." "Mae cael cyfle i redeg fy siop fy hun, hyd yn oed am gyfnod cyfyngedig, yn werth y byd i mi. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o fenter mor gefnogol a chreadigol, ac rwy'n gyffrous am yr hyn sydd i ddod."
Mae'r uned dros dro ym Marchnad Maesteg eisoes wedi croesawu busnesau gwych i’r gofod hyd yn hyn ac rwy'n falch iawn bod Drew wedi cael profiad mor gadarnhaol. Mae'r cyfle hwn yn berffaith i'r rhai sy'n awyddus i brofi syniad busnes mewn lleoliad siop. Byddwn yn annog busnesau yn fawr i gyflwyno diddordeb yn y gofod; mae'n lle gwych i arddangos eich busnes.

Y busnes nesaf i gynnal yr uned dros dro fydd ‘Entwined Together Crafts by Pip’, busnes crefft o Langynwyd a bydd yn yr uned tan ddydd Sul 2 Gorffennaf.
Os oes gennych syniad busnes ac eisiau ei brofi mewn siop eich hun, llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb fer hon.
I gadw llygad ar y masnachwyr sydd ar ddod, gallwch fynd i dudalen swyddogol y gofod dros dro ar ein gwefan.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.