Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Cwmnïau bws lleol yn cyhoeddi newidiadau i’w gwasanaethau bws
Dydd Gwener 04 Awst 2023
Bydd gweithredwyr bws ar draws Cymru yn cyhoeddi addasiadau cofrestredig i rai o’r gwasanaethau y gallant eu cynnig, yn bennaf oherwydd y newidiadau yn y cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru.
Daeth Llywodraeth Cymru â’i chronfa ‘Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau’ i ben ym mis Gorffennaf. Yna, daeth ‘Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau’, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf ac a fydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2024. Mae’r gronfa bontio yno i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth bws sydd eisoes yn bodoli’n cael ei chynnal, fel bod gwasanaethau hanfodol yn parhau ar draws y rhwydwaith.
Bydd y rhan fwyaf o’r gwasanaethau bws sy’n gweithredu o fewn y fwrdeistref sirol yn parhau’r un fath. Fodd bynnag, mae’r gwasanaethau bws a restrir isod wedi’u cofrestru ar gyfer eu newid neu eu canslo:
- Gwasanaeth Rhif 70 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gymer drwy Garth a Maesteg) – wedi’i leihau i bob awr, dydd Llun i ddydd Sadwrn, o 24.07.2023.
- Gwasanaeth Rhif 71 (Pen-y-bont ar Ogwr i Gymer drwy Lwydarth a Maesteg) – newid yn amseroedd y gwasanaeth o 24.07.2023.
- Gwasanaeth Rhif 172 (Aberdâr i Ben-y-bont ar Ogwr) – ddim yn teithio i Borthcawl o 30.07.2023, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
- Gwasanaeth Rhif 404 (Pontypridd i Ben-y-bont ar Ogwr) – ddim yn teithio i Borthcawl o 24.07.2023, dydd Llun i ddydd Sadwrn.
- Gwasanaeth Rhif 265 (Cefn Cribwr i Ysgol Gyfun Porthcawl, dyddiau ac amseroedd ysgol) – mae hwn wedi ei ganslo, ac ar gael am y tro olaf ar 21.07.2023.
Dywedodd Stagecoach, un o’r darparwyr gwasanaeth bws lleol yn y fwrdeistref sirol: “Bydd newid i amseroedd y rhan fwyaf o wasanaethau er mwyn gwella dibynadwyedd y gwasanaethau, er y bydd rhai gwasanaethau’n newid i adlewyrchu gwahanol batrymau teithio yn dilyn y pandemig a galw gan gwsmeriaid.”
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau i hyrwyddo teithio ar fws - gan ei gwneud yn system cludiant cyhoeddus hyfyw a chynaliadwy yn y fwrdeistref sirol o Ebrill 2024. Byddwn hefyd yn parhau i weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddatblygu model ariannu cynaliadwy, tymor hwy sy’n pontio’r gwagle i fasnachfreinio.