Cychwyn ymgynghoriad 12 wythnos ar adolygiad ffiniau Cyngor Tref a Chymuned

Dydd Mawrth 11 Chwefror 2025

Mae adolygiad Trefniadau Etholiadol o ffiniau’r holl gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sy’n rhoi’r cyfrifoldeb ar y cyngor i fonitro trefniadau etholiadol cymunedau lleol, bydd yr adolygiad yn penderfynu a yw’n addas i wneud neu argymell y newidiadau canlynol:

  • Nifer y Cynghorau Tref a Chymuned - gan gynnwys yr opsiwn o gyfuno, newid neu greu rhai newydd.
  • Trefniadau etholiadol - gan gynnwys nifer y cynghorwyr, nifer y wardiau, nifer y cynghorwyr a etholwyd ym mhob ward a ffiniau wardiau.
  • Enwau/teitlau Cynghorau Tref a Chymuned.

Fel rhan o’r adolygiad, mae’r cyngor wedi cychwyn ymgynghoriad 12 wythnos i gasglu barn am yr argymhellion drafft. Gall pobl gyflwyno eu hadborth ar-lein drwy ymweld â porth ymgynghori y cyngor, drwy e-bostio cgr@bridgend.gov.uk, neu drwy bostio eu sylwadau i:

Adolygiad Trefniadau Etholiadol, Swyddfa’r Etholiad, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn 23:59 ar 7 Ebrill 2025.

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd angen archwilio a chymeradwyo’r cynigion gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym yn etholiadau lleol 2027.

Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf yn 2009, gan ddilyn cylch oddeutu 10 mlynedd.

"Mae’r cyfnod ymgynghoriad 12 wythnos yn rhan hanfodol o’r adolygiad, a byddwn yn annog cymaint o breswylwyr â phosib i ddweud eu dweud er mwyn llywio dyfodol wardiau’r cyngor a’r gynrychiolaeth etholiadol yn y fwrdeistref sirol." "Mae’r adroddiad argymhellion drafft, sy’n nodi’r newidiadau arfaethedig i ffiniau a threfniadau etholiadol ar gael ar wefan y cyngor, ac mae fersiynau papur ar gael i’w gweld mewn llyfrgelloedd lleol ac yn nerbynfa’r Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel" "Mae mapiau sy’n dangos y ffiniau presennol ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned hefyd ar gael ar ein gwefan."

Chwilio A i Y

Back to top