Cydnabod tîm o Ben-y-bont ar Ogwr yn y gwobrau maethu cenedlaethol
Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026
Mae Tîm Perthnasau a Sefydlogrwydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn gwobr genedlaethol am eu gwaith yn cefnogi gofalwyr sy’n berthnasau a theuluoedd gwarcheidiaeth arbennig.
Derbyniodd y tîm, sy'n rhan o Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr, y Wobr Rhagoriaeth Tîm yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu eleni.
Mae'r wobr yn cydnabod gwelliannau y mae'r tîm wedi'u gwneud i'w gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig eu gwaith gyda gofalwyr i lunio'r cymorth sydd ar gael iddynt.
Yn sgil adborth gan ofalwyr, mae'r tîm wedi datblygu grwpiau cymorth yn y gymuned ac ar-lein. Mae hefyd wedi dechrau datblygu rôl arloeswr maethu lles i gynnig cymorth pellach i ofalwyr a theuluoedd.
Yn ei enwebiad, cafodd y tîm eu canmol am helpu gofalwyr sy’n berthnasau a gofalwyr sy’n cynnig sefydlogrwydd i deimlo bod pobl yn ‘gwrando mwy arnyn nhw ac yn fwy o ran o'r gwasanaeth', ac am adeiladu cymuned gadarnhaol i ofalwyr.
Mae'r enwebiad hefyd yn tynnu sylw at waith ailuno arbenigol y tîm, yn cefnogi plant y mae eu cynlluniau yn cynnwys dychwelyd adref a'u helpu i ddeall eu taith trwy’r system ofal.
"Rwy'n falch iawn bod ein Tîm Perthnasau a Sefydlogrwydd wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae'r tîm wedi gweithio'n agos gyda gofalwyr i ddeall eu profiadau a gwella'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd ledled Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu eu hymrwymiad i wrando ar ofalwyr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant a theuluoedd."
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yn dathlu cyfraniad gofalwyr, teuluoedd a thimau maethu ledled y DU. Eleni, aeth wyth o'r 17 gwobr i enillwyr o Gymru.
Cynhaliwyd y seremoni yn Theatr Repertory Birmingham ar 12 Tachwedd dan ofal y comedïwr, darlledwr a gofalwr maeth Kiri Pritchard-McLean.
I gael rhagor o wybodaeth am fod yn ofalwr maeth yng Nghymru ewch i maethucymru.llyw.cymru.