Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Cyfle i ddweud eich dweud ar Deithio Llesol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Gwener 14 Awst 2026
Mae preswylwyr yn cael eu gwahodd i fynychu sesiynau ymgysylltu sydd i ddod i weld y Map Rhwydwaith Teithio Llesol presennol a rhannu adborth a fydd yn helpu i lunio dyfodol cerdded, olwyno a beicio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae teithio llesol yn cynnwys cerdded, olwyno a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, boed hynny'n deithio i'r gwaith, yr ysgol, siopau, cyfleusterau hamdden neu gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.
Rydym eisiau creu rhwydwaith teithio llesol sy'n gwneud cerdded, olwyno a beicio yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb. Trwy wneud hynny, gallwn wella iechyd a lles a chryfhau cysylltiadau rhwng ein trefi a'n pentrefi.
• Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr
25 Awst 2026 | 16:30–19:30
• YMCA Porthcawl
26 Awst 2026 | 16:30–19:30
• Canolfan Chwaraeon Maesteg
2 Medi 2026 | 16:30–19:30
Gall eich barn ein helpu i ddeall lle mae angen gwelliannau a llunio rhwydwaith teithio llesol wedi'i gysylltu'n well ar gyfer y dyfodol.
Os ydych chi'n bwriadu dod i unrhyw un o'r digwyddiadau uchod, ac am iddynt gael eu cyflwyno yn Gymraeg, rhowch wybod i ni yn activetravel@bridgend.gov.uk gyda digon o rybudd fel bod modd trefnu cyfieithiad Cymraeg.
Ddim yn gyfleus? Gallwch rannu eich barn drwy lenwi ein harolwg ar-lein yn lle.