Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Cyfleuster newydd wedi’i gynllunio ar gyfer darpariaeth Dechrau’n Deg yn Nantymoel
Dydd Iau 23 Mai 2024
Mae cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhaglen ehangu'r ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg ledled y fwrdeistref sirol, a bydd Nantymoel yn elwa o gyfleuster newydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol i gynnal y ddarpariaeth gofal plant sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal.
Yn gweithredu o ‘The Mem’ (Y Ganolfan Goffa Gymunedol) yn Nantymoel fel safle dros dro ers 2023, gwnaed addewid i roi sylfaen fwy parhaol i’r gwasanaeth gofal plant, gydag adnoddau modern o’r adeilad newydd. Bydd y gofod hwn yn cynnig cyfleusterau pwrpasol, gan gynnwys darpariaeth tŷ bach a hylendid pwrpasol, yn ogystal â mynediad uniongyrchol at ardal awyr agored o dan orchudd ble gellir ehangu chwarae a dysgu plant.
Byddai’r sefydliad gofal plant Dechrau’n Deg yn darparu 12 o leoedd cyfwerth â llawn amser (hynny yw, 24 o leoedd rhan amser) o ansawdd uchel ar gyfer plant dwy a thair oed, gan ddarparu sesiynau bore a phrynhawn, gyda staff sy’n cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol.
Ar hyn o bryd, mae astudiaeth ymarferoldeb ar y gweill ar y cyn safle Ysgol Fabanod Nantymoel ar Stryd Dinam a bydd y canlyniad yn penderfynu ar addasrwydd y lleoliad ar gyfer y ddarpariaeth newydd.
Dyma newyddion da i deuluoedd sy’n byw yng nghymuned Nantymoel. Mae’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg yno eisoes yn cynnig cymaint. Mae ymchwil yn dangos fodpresenoldeb rheolaidd mewn sefydliad gofal plant o ansawdd yn gwella canlyniadau i blant yn sylweddol, yn enwedig o ran eu sgiliau cyfathrebu a’u datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. Pan mae’r plant yn trosglwyddo i addysg Feithrin, maent yn barod i ddysgu, yn hyderus wrth gymdeithasu ag eraill ac yn awyddus i groesawu'rcyfleoedd sydd ar gael. Nid oes gen i ddim ond canmoliaeth i ddarpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg, sy’n rhoi cefnogaeth wych i rieni a phlant. Ni all yr adeilad newydd, gyda’r cyfleusterau diweddaraf, ond wella’r ddarpariaeth ragorol sydd eisoes yn cael ei chynnig gan Dechrau’n Deg Nantymoel.