Mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gweithgareddau AM DDIM i bobl 11 oed a hŷn drwy gydol y gwyliau - Rhaglen yr Haf
Cyfri’r dyddiau tan Bencampwriaeth Agored y Menywod AIG yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl
Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025
Bydd Pencampwriaeth Agored y Menywod AIG yn dod i Glwb Golff Brenhinol Porthcawl ddiwedd y mis ac mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi i gynnal yr hyn fydd y digwyddiad chwaraeon menywod mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru.
Mae'r twrnamaint yn cynnwys 144 o gystadleuwyr o bob cwr o'r byd, gyda'r bencampwriaeth yn digwydd rhwng dydd Iau 31 Gorffennaf a dydd Sul 3 Awst 2025. Mae'r rownd ymarfer olaf a'r ‘pro-am’ yn digwydd ddydd Mercher 30 Gorffennaf.
Gan fod disgwyl i nifer sylweddol o wylwyr fynychu'r bencampwriaeth, mae ystod o fesurau wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau ei bod yn rhedeg mor esmwyth â phosibl gyda chyn lleied o anghyfleustra â phosibl.
Dylai trigolion fod yn ymwybodol y bydd y llwybr troed cyhoeddus sy'n estyn ar hyd pen pellaf y cwrs golff ar gau o Pink Bay i gyfeiriad West Road rhwng 30 Gorffennaf a 4 Awst. Fodd bynnag, bydd y llwybr pren sy'n rhedeg ar hyd yr arfordir tuag at Rest Bay yn parhau i fod ar agor fel arfer - Gorchymyn Cau Dros Dro - Llwybr Troed 20 Porthcawl a Llwybr Troed 55 Corneli - Cynllun.
Er mwyn cynorthwyo gyda rheoli traffig a lleihau tagfeydd o amgylch Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, bydd rheoliadau traffig dros dro a chyfyngiadau parcio hefyd yn cael eu cyflwyno. Bydd terfyn cyflymder o 20mya ar waith ar hyd rhan o West Road rhwng 27 Gorffennaf a 4 Awst, a bydd sawl ardal ‘dim aros’ yn cael eu cyflwyno mewn amrywiol leoliadau cyfagos.
I unrhyw un sy'n mynychu'r bencampwriaeth, mae parcio cyhoeddus am ddim ar gyfer ceir a beiciau modur ar gael ar y safle ac mae wedi'i leoli mewn cae wrth ymyl y cwrs. Gadewch yr M4 wrth Gyffordd 38 a dilynwch yr arwyddion du a melyn ar gyfer parcio cyhoeddus.
Bydd bws gwennol am ddim i wylwyr hefyd yn rhedeg rhwng gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr a Chlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Bydd bysiau’n gadael yr orsaf tua phob 15 munud. Ewch i wefan AIG Women's Open i gael rhagor o wybodaeth am gynllunio'ch taith: https://www.aigwomensopen.com/tickets-and-hospitality/getting-there
Oherwydd y torfeydd mawr, bydd parth dim hedfan dros dro ar gyfer awyrennau di-griw fel dronau ar waith uwchben y cwrs golff a'r ardal gyfagos.
Bydd digon o weithgareddau hwyliog i'r teulu cyfan ar gael hefyd gan gynnwys pwll peli enfawr, pwll tywod, peintio wynebau, gwersi golff am ddim, gemau lawnt a stondinau bwyd a diod gwych.
Mae tocynnau ar gyfer y bencampwriaeth ar gael o hyd, ac mae mynediad am ddim i blant dan 16 oed sydd yng nghwmni oedolyn sy'n talu. Ewch i wefan AIG Women's Open i brynu’ch tocyn: www.aigwomensopen.com/tickets-and-hospitality/tickets/2025.
