Cyhoeddi cau pont afon Melin Ifan Ddu dros dro

Dydd Gwener 29 Awst 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd y bont sy'n cario'r A4061 dros afon Ogwr ym Melin Ifan Ddu ar gau'n llwyr i'r ddau gyfeiriad rhwng 8am a 5pm ar ddydd Sul 31 Awst 2025. 

Mae angen cau’r bont er mwyn gallu tynnu samplau pridd fel rhan o’r gwaith atgyweirio sydd wedi ei gynllunio i'r strwythur, sy'n heneiddio, a hefyd i gadarnhau lleoliad pibellau a cheblau sy'n perthyn i gwmnïau cyfleustodau. 

Blaenoriaethwyd y gwaith ar y bont ar ôl i ddiffygion atal dŵr arwain at ddarganfod problemau strwythurol pellach sydd angen sylw ar frys.

"Mae pont afon Melin Ifan Ddu yn rhan hanfodol o'r prif lwybr i mewn ac allan o Gwm Ogwr i yrwyr sy'n defnyddio'r A4061, ac mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel cyn gosod dec newydd ar y bont. "Hoffai'r cyngor ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd y gwaith hanfodol hwn yn ei achosi. Bydd gwyriad ar waith a gwneir pob ymdrech i gwblhau'r gwaith mor gyflym ac effeithlon â phosibl. "Bydd y gwaith yn werth yr ymdrech yn y pen draw gan y bydd yn ymestyn oes y bont a bydd yn sicrhau y gall cenedlaethau o drigolion Cwm Ogwr barhau i'w defnyddio gan wybod ei fod yn strwythurol ddiogel."
Delwedd o waith ffordd

Chwilio A i Y

Back to top