Cyllid yn arbed gwasanaeth rhif 172 rhag newidiadau arfaethedig i'r llwybr

Dydd Llun 07 Gorffennaf 2025

Yn ddiweddar, cyhoeddodd cwmni trafnidiaeth gyhoeddus yn y DU, Stagecoach South Wales, gynlluniau i ganslo rhan o lwybr gwasanaeth rhif 172 yn ystod y dydd, o Hendreforgan yn Rhondda Cynon Taf i Orsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr.  Fodd bynnag, mae cyllid Llywodraeth Cymru bellach ar fin achub y gwasanaeth hanfodol, gan gysylltu teithwyr o Gwm Ogwr ac yn ehangach i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Dilynodd y newidiadau arfaethedig ostyngiad yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth a byddai wedi effeithio ar deithwyr o Evanstown a Gilfach Goch, yn ogystal â'r rhai o Lynogwr ac ochr ddwyreiniol Melin Ifan Ddu. 

Yn dilyn cyhoeddiad Stagecoach yn datgelu newidiadau i'r gwasanaeth, mae swyddogion y cyngor ac aelodau etholedig o bob rhan o'r rhanbarth wedi gweithio'n ddiwyd i ystyried opsiynau i ddiogelu'r llwybr hanfodol.  Mae eu hymdrechion wedi arwain at sicrhau arian drwy Grant Cymorth Gwasanaethau Bysus Llywodraeth Cymru a’r Grant Rhwydwaith Bysus, gan ganiatáu i'r llwybr a enwir barhau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gyfrifol am drafnidiaeth: "Rydyn ni'n gwybod y bydd trigolion yn falch bod y llwybr hwn wedi'i achub. Mae'r llwybr traws-cymoedd hwn yn hanfodol i bobl gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, iechyd a hamdden ledled y rhanbarth, ac roedd yn bwysig ein bod yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau'r llwybr ar gyfer y dyfodol.

"Mae gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gadw'r llwybr hanfodol hwn yn rhedeg wedi bod yn gyflawniad mawr, ac rwy'n falch y bydd y llwybr yn parhau i fod ar gael i drigolion."

Cyllid yn arbed gwasanaeth rhif 172 rhag newidiadau arfaethedig i'r llwybr

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai:  "Ar hyn o bryd mae gwasanaeth bws rhif 172 yn cysylltu Aberdâr, Merthyr Tudful, Tonyrefail, a Phen-y-bont ar Ogwr - byddai ei ddileu wedi bod yn newid sylweddol i deithio ar draws y cymoedd. 

"Mae penderfyniad a dyfalbarhad swyddogion y cyngor ac aelodau etholedig o Gynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf wedi bod yn llwyddiannus.  Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn am ddycnwch y swyddogion wrth edrych ar ôl buddiannau cymunedau ledled y rhanbarth a galluogi parhad y gwasanaeth hanfodol hwn."

"Gan adleisio teimladau cydweithwyr, mae'n rhyddhad mawr bod y cysylltiadau rhwydwaith bysus, sy’n hanfodol i gymaint o bobl, yn parhau i fod ar waith.  Rydym yn ddiolchgar i swyddogion y cyngor sydd wedi sicrhau'r cyllid angenrheidiol i sicrhau hirhoedledd y gwasanaeth rhif 172 yn ei gyfanrwydd."

Chwilio A i Y

Back to top