Cyllid yn dod â bywyd newydd i ardal gymunedol boblogaidd

Dydd Iau 05 Mawrth 2026

Mae pethau'n edrych yn well (ac yn wyrddach!) ar Gae’r Ffesant ym Mhen-y-Fai, diolch i gyllid sydd wedi trawsnewid yr ardal gymunedol yn lle mwy diogel, mwy croesawgar a mwy bywiog i drigolion ei fwynhau.
Mae'r gwelliannau wedi'u cyflawni diolch i gais llwyddiannus am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Gynt yn ardal werdd syml, mae wedi ei thrawsnewid yn hyb cymunedol mwy croesawgar o lawer. Mae bellach yn fwy hygyrch, yn fwy diogel, ac yn ardal hamdden gymunedol fywiog.

Bydd ymwelwyr nawr yn elwa ar oleuadau diogelwch newydd sbon i hwyluso  gyfer mynd am dro gyda'r nos, ardaloedd picnic cynhwysol delfrydol ar gyfer gweithgareddau dros y penwythnos, a gatiau hygyrch sy'n gwneud mynediad yn llawer haws i gadeiriau olwyn a phramiau. Mae'r gwelliannau hefyd yn cefnogi bywyd gwyllt lleol diolch i westy chwilod a blychau adar, ac mae siop lyfrau gymunedol newydd ar gyfer darllenwyr brwd y pentref.

Dechreuodd y prosiect yn 2024 pan ymunodd Cyngor Cymuned y Castellnewydd â thîm 'Reach' y cyngor i gynnal astudiaeth ddichonoldeb. Trwy gynnwys barn trigolion lleol a chynnal archwiliad llawn ar fynediad i’r safle, sicrhaodd y tîm fod y gwelliannau’n addas i'r gymuned gyfan. Arweiniodd yr astudiaeth ddichonoldeb hon at gais llwyddiannus am Grant Cyfalaf Cymunedau Cryf i gyfrannu at welliannau Cae’r Ffesant.  

"Mae'r gwelliant i'r ardal hon wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'r gymuned leol. Rydyn ni wedi bod eisiau siop lyfrau ers blynyddoedd lawer. Mae Cae’r Ffesant wedi dod yn hyb lleol i bobl o bob oed ddod at ei gilydd i fwynhau."
"Gyda'r elfennau newydd hyn gallwn annog pobl o bob oed i fwynhau bod yn rhan o fywyd y gymuned. Mae pob math o weithgareddau i’w mwynhau yn yr ardal awyr agored, ac yn y dafarn leol sy'n edrych dros y cae. Mae gyda ni ddigwyddiadau cerddorol byw, a ffair haf, a grwpiau cymunedol, fel grŵp crosio a grŵp trefnu blodau dan do."
"Mae'n wych gweld sut mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gwneud gwahaniaeth go iawn yng nghanol ein pentrefi. Trwy fuddsoddi mewn mannau fel Cae’r Ffesant, nid dim ond trwsio parc rydyn ni’n wneud; rydyn ni'n creu ardal lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac yn gysylltiedig, mewn ffodd gynhwysol, â'u hamgylchedd. Dyma'r union fath o ddatblygiad llawr gwlad sy'n gwneud i'n cymunedau ffynnu. Mae'r gweddnewidiad yn enghraifft berffaith o'r hyn sy'n digwydd pan fydd lleisiau lleol a buddsoddiad strategol yn cyd-daro. Mae'n wych o ran hygyrchedd, o ran yr amgylchedd, ac yn wych o ran bywydau pobl Pen-y-fai."
"Mae'r prosiect hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Cyngor y Gymuned i greu ardaloedd cymunedol cynhwysol, cynaliadwy sy'n dod â phobl at ei gilydd. Trwy wrando ar ein trigolion a buddsoddi mewn gwelliannau sydd wedi’u hystyried yn ofalus, rydyn ni’n gwella'r amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol."

Mae'r Grant Cyfalaf Cymunedau Cadarn yn cael ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn, ewch i dudalennau gwe cyllid y Cyngor.

Buddsoddi yn ein cymunedau: Trigolion pentref Pen-y-Fai, yn y llun gyda'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Neelo Farr, y Cynghorydd Heidi Bennett, Aelod Ward a Chynghorydd Cymuned gyda Harris Stone yng Nghae’r Ffesant.
Buddsoddi yn ein cymunedau: Trigolion pentref Pen-y-Fai, yn y llun gyda'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Jane Gebbie, yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Neelo Farr, y Cynghorydd Heidi Bennett, Aelod Ward a Chynghorydd Cymuned gyda Harris Stone yng Nghae’r Ffesant.
Gweithio gyda phreswylwyr: Claire Westrop a Mike Parker o bentref Pen-y-Fai.
Gweithio gyda phreswylwyr: Claire Westrop a Mike Parker o bentref Pen-y-Fai.

Chwilio A i Y

Back to top