Cyllid yn grymuso arloesi lleol ym maes ynni adnewyddadwy

Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025

Mae’r datblygwr ynni adnewyddadwy o Ben-y-bont ar Ogwr, Infinite Renewables Ltd, wedi llwyddo i sicrhau cyllid hanfodol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU i roi hwb i’w gwaith o ddatblygu technoleg werdd, gan yrru twf economaidd lleol ac arloesedd cynaliadwy.

Gyda chefnogaeth drwy’r Grant Datblygu Busnes, mae'r busnes wedi gwneud camau sylweddol wrth ddatblygu datrysiadau symudol ym maes ynni adnewyddadwy. Mae'r cyllid wedi galluogi Infinite Renewables i brynu Tyrbin Gwynt Symudol 15kW BestWatt a seilwaith hanfodol ychwanegol, gan gynnwys paneli solar, systemau batri, a threlar masnachol. Mae'r gefnogaeth hon wedi bod yn drawsnewidiol i Infinite Renewables, gan ganiatáu i'r cwmni ddatblygu systemau prototeip a chreu swydd llawn amser newydd yn ogystal ag un rhan amser.

"Mae'r grant hwn wedi bod yn allweddol wrth leihau ein risg fasnachol, gan ein galluogi i greu a marchnata datrysiadau ynni adnewyddadwy o’r radd flaenaf ar gyfer marchnadoedd arbenigol. Mae'r tyrbin gwynt symudol, a gynlluniwyd i gynhyrchu trydan oddi ar y grid, yn cynrychioli datblygiad arloesol o ran darparu ynni gwyrdd ar gyfer digwyddiadau mawr a gweithgareddau busnes o bell. Trwy gysylltu'r tyrbin â system batri datblygedig, mae Infinite Renewables yn paratoi’r ffordd ar gyfer datrysiadau pŵer sy’n hyblyg ac yn gynaliadwy. Heb y cyllid hwn, byddai datblygu arddangoswr masnachol llawn wedi peri gormod o risg. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr."
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol sy'n gyrru datblygiadau technolegol cynaliadwy. Mae Infinite Renewables yn enghraifft o'r ysbryd arloesol rydyn ni am ei feithrin drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin."
"Pleser oedd cwrdd â'r tîm o Infinite Renewables a gweld sut mae cyllid y cyngor wedi eu helpu i ddatblygu eu busnes. Mae'r gwaith arloesol y maen nhw'n ei wneud ym maes ynni gwyrdd yn gyffrous iawn ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu helpu ar eu taith ynni gwyrdd."

Mae'r grantiau cymorth busnes yn cael eu hariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, sy'n cynnig dull pwrpasol o gefnogi entrepreneuriaeth leol a thwf economaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn, ewch i dudalennau gwe cyllido'r Cyngor.

(O'r chwith i'r dde) Iestyn Morgan, Cyfarwyddwr Infinite Renewables, John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Tracy Mortimer, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Simon Richards, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Andrew Crossman, Cyfarwyddwr Infinite Renewables, a'r Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod ymweliad diweddar ag Infinite Renewables Ltd.
(O'r chwith i'r dde) Iestyn Morgan, Cyfarwyddwr Infinite Renewables, John Spanswick, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Tracy Mortimer, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Simon Richards, Cydlynydd Menter Leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Andrew Crossman, Cyfarwyddwr Infinite Renewables, a'r Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod ymweliad diweddar ag Infinite Renewables Ltd.

Chwilio A i Y

Back to top