Cymorth gwerth £3.5 miliwn i atgyweirio pont Melin Ifan Ddu
Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo yn eu cais am gyllid trafnidiaeth ranbarthol Llywodraeth Cymru, gwerth dros £3.5 miliwn, i helpu i dalu’r gost o ddisodli pont afon yr A4061 ym Melin Ifan Ddu.
Gyda'r cyngor yn cyfrannu £1.5 miliwn yn ychwanegol, mae'r cyllid yn golygu y gall y gwaith i ddisodli'r bont fynd rhagddo.
Mae'r bont yn rhan o'r A4061 ac yn cynnal y prif lwybr i mewn ac allan o Ddyffryn Ogwr. Cafodd ei lleihau i un lôn gyda goleuadau traffig dros dro ym mis Awst 2025 yn dilyn gwiriad arferol a ganfu craciau yn y prif ddec a'r angen am gynnal atgyweiriadau pellach o dan y bont.
Mae cyfres o adolygiadau technegol yn cael eu cynnal ar y prif ddec newydd sbon, ac mae proses dendro yn cael ei pharatoi i benodi contractwr all gyflawni’r gwaith.
Mae'r cyngor hefyd yn paratoi i osod pont cyfleustodau ar draws y cwrs dŵr fel y gellir dargyfeirio nwy, cyflenwadau dŵr a cheblau telathrebu yn ddiogel er mwyn galluogi'r gwaith i ddigwydd, ac mae'n gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i liniaru unrhyw effaith amgylcheddol bosibl.
Mae'r Cynghorydd Gary Haines a'r Cynghorydd Eugene Caparros, sy'n rhannu rôl yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a'r Amgylchedd, ill dau wedi croesawu'r newyddion cadarnhaol.
"Diolch i'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, rydym bellach mewn sefyllfa i allu darparu'r datrysiad peirianneg cymhleth hwn, ac mae'n wych gweld £3.5 miliwn yn cael ei ddyfarnu i gefnogi ein hymdrechion i ddisodli pont yr afon ym Melin Ifan Ddu.
"Hyd nes y bydd y gwaith yn barod i ddechrau, byddwn yn parhau i wneud pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl, a byddwn yn monitro'r system goleuadau traffig dros dro yn ofalus fel ei bod yn gweddu orau i lif y traffig ar ei brysuraf a phan nad ydyw mor brysur. "Yn y cyfamser, rydym am ddiolch i drigolion a gyrwyr am eu hamynedd a'u dealltwriaeth."