Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Cymuned yn dathlu gweddnewidiad Gwarchodfa Natur Parc Bedford
Dydd Iau 26 Mehefin 2025
Yn ddiweddar, dathlodd preswylwyr, plant ysgol, grwpiau gweithredu gwirfoddol, rhanddeiliaid a phwysigion lansiad swyddogol y trefniadau mynediad newydd yng Ngwarchodfa Natur Parc Bedford, sy'n amgylchynu 18 hectar o ofod gwyrdd ac adfeilion Gwaith Haearn Cefn Cribwr o'r 18fed ganrif.
Croesawodd y Cynghorydd Huw David, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, westeion i'r digwyddiad a oedd yn cynnwys perfformiadau bywiog a theimladwy gan ddisgyblion o ysgolion cynradd Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr a’r Ferch o'r Sger. Daeth y dysgwyr â threftadaeth y safle yn fyw trwy gân a datganiad wedi'u hysbrydoli gan John Bedford, y meistr haearn a sefydlodd y gwaith haearn yng Nghefn Cribwr.
Wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) a'i gyflwyno gan dîm Gwella Mannau Gwyrdd y cyngor mewn cydweithrediad â'r tîm Cadwraeth a Dylunio, ymgymerwyd â'r gwaith o weddnewid y parc gan y contractwyr o Bort Talbot, Emroch Landscapes, o dan oruchwyliaeth arbenigol Whittington Landscapes Ltd – ill dau yn rheoli'r safle gyda sensitifrwydd i greu gofod mwy hygyrch a chynhwysol.
Mae haneswyr lleol a stiwardiaid gwyrdd o'r Cefn Gwyrdd, grŵp cymunedol gwirfoddol sydd wedi bod yn ymroddedig i gadwraeth y gwaith haearn ers dros ddeugain mlynedd, hefyd wedi chwarae rhan fawr yn y cynllun.
“Heb ymrwymiad llwyr y Cefn Gwyrdd dros y degawdau, efallai na fyddai'r prosiect hwn byth wedi cymryd siâp. "Mae angerdd y grŵp wedi sicrhau bod etifeddiaeth ddiwydiannol Bedford nid yn unig wedi'i chadw ond hefyd wedi'i ailddychmygu, wrth iddynt gydweithio â swyddogion y cyngor, y busnes lleol United Graphic Design, a'r cerflunydd hynod dalentog o Gymru, Nigel Talbot.”
Gyda Pharc Bedford yn cynnig gwerth ecolegol enfawr fel cynefin i rywogaethau gwarchodedig fel y pathew, y fadfall ddŵr gribog, yn ogystal â fflora a ffawna amrywiol, mae'r fenter yn rhan o ymrwymiad ehangach y cyngor i wella bioamrywiaeth, hyrwyddo lles a diogelu treftadaeth leol.


“Mae Parc Bedford bellach yn fwy na man gwyrdd yn unig – mae'n etifeddiaeth fyw. Mae'r prosiect hwn yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cyfuno treftadaeth, ysbryd cymunedol ac adfywio amgylcheddol. Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i wneud hyn yn bosibl.”


“Mae ein pobl ifanc wedi bod yn rhagorol yn ystod y digwyddiad hwn. Roedd eu creadigrwydd, eu hegni a'u balchder yn eu cymuned yn amlwg i bawb. Maen nhw’n ein hatgoffa ni ar gyfer pwy’n union mae’r parc hwn – y genhedlaeth nesaf a'r rhai i ddod.”