Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chwmpas yn rhagori ar dargedau i roi hwb i'r economi leol
Dydd Mercher 04 Mehefin 2025
O helpu i greu wyth busnes newydd i ddarparu cyfleoedd datblygu i dros 130 o fusnesau sydd eisoes yn bodoli, mae'r economi leol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael hwb dros y flwyddyn ddiwethaf – ac mae hynny diolch i bartneriaeth arloesol rhwng asiantaeth datblygu mentrau cymdeithasol Cwmpas a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Gyda’r nod o fodloni anghenion lleol, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfG) yn cefnogi cymunedau lleol trwy ffocysu ar feysydd craidd fel pobl, sgiliau a busnesau lleol.
Dywedodd Martin Downes, Ymgynghorydd Arweiniol Cwmpas, sydd wedi bod yn goruchwylio'r Rhaglen Cymorth Mentrau Cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr:
"Ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydyn ni wedi perfformio'n well ar bron pob targed, ac wedi cwrdd â'r lleill. Rydym wedi helpu i greu wyth busnes newydd eleni, lle mai dau oedd y targed, ac rydym wedi helpu i ddiogelu 12 swydd, gan guro ein targed cychwynnol o ddau.
"Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau datblygu busnes y daeth 200 o unigolion a 132 o fusnesau iddyn nhw, ac fe wnaethom gynnal y farchnad fentrau gymdeithasol gyntaf erioed yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP), gyda 90 o fynychwyr unigol a 24 o fentrau."
Mae Baobab Bach yn un o nifer o sefydliadau i elwa.
Mewn dim ond pum mlynedd, mae ganddynt bellach chwe aelod o staff a dros 100 o wirfoddolwyr, yn cyflenwi bwyd o safon i oddeutu 270 o deuluoedd yr wythnos, a hynny heb brofion modd. Maen nhw'n gwneud hyn trwy eu 14 pantri cymunedol sydd wedi'u lleoli mewn tair sir yn ne Cymru, gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae bwyd ffres a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi yn dod o FareShare Cymru ac mae'r pantrïoedd hefyd yn cynnig noddfa, lle i gwrdd a chymdeithasu, a chefnogaeth gymunedol hanfodol.
Dywedodd Alison Westwood, Cyfarwyddwr Baobab Bach: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni wedi'i derbyn yn rhan o'r Rhaglen Cymorth Mentrau Cymdeithasol - mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.
"Bydd y gefnogaeth yn gwneud ein safleoedd yn llawer haws eu rheoli a’u meithrin. Yn y gorffennol, rydym wedi cael problemau gyda dŵr yn gollwng, felly mae'r effaith wedi bod yn drawsnewidiol."
Mae Cwmpas hefyd wedi helpu i ddatblygu strwythur rheoli Baobab Bach, ac wedi cefnogi eu gwaith yn cynllunio strategaethau, ymgeisio am gyllid, sesiynau hyfforddi, a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio.
Aeth Alison yn ei blaen i ddweud: "Mae mor bwysig cael mynediad at gymorth o safon. Mae yna bethau ar lefel fusnes nad ydym yn eu gwybod, ond mae cael cynghorydd arbenigol fel Cwmpas sydd â phersbectif o’r tu allan mor werthfawr. Gwrandewch ar y cyngor ‘na! Mae wir yn ddefnyddiol."
Mae llwyddiant partneriaeth Cwmpas a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cael ei adlewyrchu yn stori menter lles gymdeithasol Baldilocks.
Gwnaeth y cyfarwyddwr Dan Newman ddioddef ymosodiad treisgar pan oedd yn 18 oed. Datblygodd alopecia yn fuan wedyn hynny – ac o'r trawma a'r adfyd hwnnw daeth gobaith a chefnogaeth ar ffurf Baldilocks.
Sefydlodd Dan Baldilocks ar ôl mynychu gweithdy cychwynnol dan ofal Cwmpas fel rhan o'r bartneriaeth ym mis Mehefin 2024.
Dywedodd: "Mae alopecia yn gyflwr lle efallai nad ydych chi eisiau i unrhyw un eich gweld chi - ond pan fyddwch chi'n cael eich gweld gydag empathi a dealltwriaeth, rydych chi'n teimlo'n fwy o ran o’r ddynol ryw. Rydych chi’n teimlo bod rhywun yn malio amdanoch. Rydyn ni yma i helpu pobl trwy eu hadfyd gyda dynoliaeth a hiwmor: Po fwyaf rydyn ni'n ymgysylltu fel bodau dynol, y mwyaf rydyn ni'n ennill.
"Mae cefnogaeth gan y Cyngor a Chwmpas wedi bod yn rhan hanfodol o'n taith. Rydym wedi elwa ar gyngor arbenigol o ran llywio'r dirwedd mentrau cymdeithasol, a sut i ddatblygu busnes sy'n gweithio i chi a'r bobl rydych chi'n effeithio arnynt.
"Gall menter gymdeithasol newid economi’r dyfodol yn fawr. Ewch gyda'r pwrpas sy’n eich gyrru, a gwnaiff popeth arall ddilyn o hynny."
"Mae ein gwaith gyda Chwmpas yn enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth gael effaith enfawr ar ein heconomi leol, a’n busnesau a thrigolion lleol. "Mae'n braf iawn bod y targedau nid yn unig wedi'u cyrraedd ond wedi'u rhagori. Mae meddwl y tu allan i'r bocs wedi bod yn allweddol i hyn, er enghraifft roedd marchnad mentrau cymdeithasol y fwrdeistref sirol yn hollol newydd i ni. "Mae edrych ar ôl Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi ein galluogi i gefnogi ein cymunedau, helpu busnesau lleol i dyfu, a darparu hyfforddiant defnyddiol i drigolion. Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar hyn yn y dyfodol.”
Dywedodd Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter gyda Cwmpas; "Mae ein partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno'r rhaglen gymorth Menter Gymdeithasol wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
"Mae ein cynghorwyr busnes wedi mwynhau gweithio gyda mentrau cymdeithasol newydd a sefydledig, sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr yn eu cymunedau, ar hyd a lled Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Fel y dywed ein cleient Dan Newman, mae ein rhanbarth yn llawn potensial. Trwy fanteisio ar y diwylliant hwn o wydnwch a chymuned, gall menter gymdeithasol fod yn drawsnewidiol i economi Cymru."
