Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2025-26

Dydd Iau 27 Chwefror 2025

Mae cyllideb refeniw net o £383.3m wedi ei chytuno ar gyfer 2025-26 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gyda’r gyllideb wedi ei datblygu yn dilyn dadansoddiad trylwyr o adborth drwy graffu ac ymgynghoriad cyhoeddus eang, galluoga hyn y cyngor i barhau i ddarparu dros 800 o wasanaethau i gymunedau lleol. Bydd hyn yn darparu cyllid cychwynnol o £31.6m i wasanaethau Addysg Ganolog, £123.2m i Ysgolion, £115.9m i Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a £33.7m i Gymunedau.

Bydd ysgolion hefyd yn derbyn £7.9m o gyllid ychwanegol i dalu costau llawn yr heriau ychwanegol megis cyflog athrawon a chostau pensiwn ar gyfer 2025-26. 

Bydd gwasanaethau o fewn cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr fel Gwasanaethau Cyfreithiol, Tai a Digartrefedd, Adnoddau Dynol, Cyllid a Diogelwch Cymuned yn elwa o £24.8m, a bydd cyllidebau cyngor cyfan yn cynnwys gweithrediadau fel cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, yswiriant, rhyddhad ardrethi dewisol, a rhagor, yn derbyn £53.9m. 

Mae cynnydd yn y dreth gyngor o 4.5 y cant hefyd wedi cael ei gytuno – cyfwerth â £1.59 ychwanegol yr wythnos ar gyfer eiddo Band D, ac un o’r canrannau isaf o ran cynnydd yng Nghymru.

“Mae’r gyllideb hon yn profi unwaith eto bod addysg a chymorth i bobl fregus o bob oedran yn parhau i fod yn ddau o’n prif flaenoriaethau, ac yn cyd-fynd â chanlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus eang a gynhaliwyd gennym fel rhan o’r broses gosod cyllideb. "Gyda £123.2m wedi ei neilltuo i ysgolion, mae’r pwysau arnyn nhw i ddod o hyd i arbediad o un y cant yn eu cyllidebau yn llai o faich nawr gan ein bod yn darparu adnoddau ychwanegol i’w helpu i dalu cyflogau a heriau ariannol yn 2025-26, sy’n golygu bod cynnydd net o £7.9m mewn cyllid i ysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf. Byddwn hefyd yn buddsoddi bron i £14m tuag at y gost o sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg newydd yn rhan orllewinol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nid ydym yn ceisio gwneud gostyngiadau yng Ngwasanaeth Cerdd Pen-y-bont ar Ogwr mwyach, ac rydym, yn hytrach yn ceisio darganfod ffyrdd amgen i sicrhau’r arbediad angenrheidiol yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae cyllid ychwanegol hefyd wedi’i neilltuo i gefnogi oedolion a phlant bregus, a gyda £9.4m i gynorthwyo bob cyfarwyddiaeth i fodloni heriau cyllidebol sylweddol barhaus, a £5m ychwanegol i fodloni heriau newydd neu rai’r dyfodol, mae’n amlwg bod y cyngor yn buddsoddi drwy’r gyllideb hon.”
“Mae hon yn gyllideb realistig a all ein cynorthwyo i lywio'r cyngor drwy flwyddyn arall heriol dros ben, a hynny wrth barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol er budd pobl leol. Mae ein gwariant cyfalaf ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys £3m ar gyfer adnewyddu cerbydau casglu gwastraff ac ailgylchu sy’n hen, dyraniad blynyddol o £2.4m ar gyfer grantiau cyfleusterau anabl, a £2m ar gyfer parhau i drawsnewid a gwella ardaloedd chwarae i blant. “Byddwn yn buddsoddi £590,000 mewn gwaith strwythurol priffyrdd a gwaith cyfalaf ffyrdd cerbydau, £400,000 ar gyfer adnewyddu colofnau goleuadau stryd, £100,000 i helpu i ddefnyddio hen adeiladau unwaith eto, a £50,000 i gefnogi prosiectau o fewn cymunedau lleol. “Yn ogystal, rydym wedi derbyn cadarnhad heddiw bod Llywodraeth Cymru am gefnogi Menter Benthyca Llywodraeth Leol i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag atgyweiriadau ar y priffyrdd. O ganlyniad, byddwn yn gallu buddsoddi ffigwr o tua £2.9m ar gyfer y gwaith hwn yn 2025-26. Wedi i ni gadarnhau’r ffigurau yn fanwl gywir, byddwn yn sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei fuddsoddi yn y lleoedd y bydd trigolion lleol yn elwa fwyaf ohono. Yn ogystal, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn cynlluniau tai a digartrefedd, darparu gwasanaeth teleofal digidol cyfunol i oedolion bregus sy’n cynnig cymorth cyflymach o safon well, a defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i sefydlu 36 cyfleuster gwefru newydd i gerbydau trydan. “Er gwaethaf yr argyfwng cyllido llywodraeth leol parhaus a’r sefyllfa ariannol eithriadol o anodd yr ydym yn parhau i’w hwynebu, unwaith eto, mae ein rheolaeth ariannol ddarbodus wedi cynhyrchu cyllideb gytbwys sydd, yn ein barn ni, yn cydnabod ac yn diogelu’r gwasanaethau hynny gan y cyngor sydd fwyaf gwerthfawr i drigolion.”

Chwilio A i Y

Back to top