Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lansio rhaglen interniaeth a gefnogir gan Broject SEARCH

Dydd Iau 10 Medi 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi croesawu ei garfan gyntaf o interniaid a gefnogir gan Brosiect SEARCH, gan nodi lansiad y rhaglen yn y Cyngor. 

Y mis hwn, dechreuodd wyth intern â chymorth eu hyfforddiant gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o DFN Project SEARCH, rhaglen sy’n cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ennill sgiliau a phrofiad yn y gweithle.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Cyngor gefnogi'r rhaglen, gan weithio mewn partneriaeth â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, Elite Supported Employment a DFN Project SEARCH.

 Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn ei chael hi'n anodd pontio i'r gweithle ar ôl gadael yr ysgol neu'r coleg. Mae'r fenter hon yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a sicrhau cyflogaeth ystyrlon, â thâl. 

Yn ystod y rhaglen, bydd yr interniaid yn cwblhau tri chylch 10 wythnos ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor, gan roi profiad iddynt o wahanol rolau a lleoliadau gwaith. 

Mae'r Cyngor wedi cefnogi dau intern o'r blaen drwy leoliadau yn y gweithle yn ei gartref gofal ym Mryn y Cae. Ar ôl eu lleoliadau, sicrhaodd y ddau rolau parhaol yn y cartref.

"Rydym yn hynod falch o groesawu ein carfan gyntaf o interniaid Project SEARCH i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na chael profiad yn y gweithle - mae'n ymwneud ag agor drysau, magu hyder a chreu llwybrau gwirioneddol i gyflogaeth â thâl. "Rydym yn gwybod y gall y pontio o addysg i gyflogaeth fod yn arbennig o heriol i bobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Fel Cyngor, mae gennym gyfrifoldeb i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i sicrhau nad yw talent a photensial yn cael eu hanwybyddu. "Rydym eisoes wedi gweld y gwahaniaeth y gall y cyfleoedd hyn ei wneud, gyda dau berson ifanc yn symud ymlaen o leoliadau ym Mryn y Cae i gyflogaeth barhaol. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw ac yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r cyfleoedd i'n hinterniaid newydd lunio eu dyfodol eu hunain. "Ac yn bwysig, cyfle dwyffordd yw hwn. Mae gan ein hinterniaid gymaint i'w ddysgu i ni ag sydd gennym ni i'w ddysgu iddyn nhw, gan ddod â safbwyntiau, profiadau a thalentau newydd i'n gweithlu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld beth maen nhw'n ei gyflawni."
"Mae'n wych gweld ein interniaid newydd yn cymryd y cam cyntaf hwn i mewn i'r gweithle ac yn dechrau'r hyn rydyn ni'n gobeithio fydd yn flwyddyn wirioneddol gadarnhaol a gwerth chweil iddyn nhw. Mae interniaethau â chymorth yn rhoi cyfle i'n dysgwyr ddatblygu eu sgiliau a'u hyder mewn amgylchedd gwaith go iawn, tra'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i lwyddo. "Mae gweld llwyddiant Jessica a Chloe, sydd wedi symud ymlaen o interniaeth â chymorth i gyflogaeth barhaol gyda'r Cyngor, yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd pobl ifanc yn cael y cyfleoedd a'r cymorth cywir. Rydym yn hynod falch o'n carfan newydd ac yn gyffrous i weld ble bydd y profiad hwn yn mynd â nhw."
Delwedd o interniaid Project SEARCH sy'n cael cefnogaeth

Chwilio A i Y

Back to top