Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 26 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.
Cyngor i ymgynghori ar ganllawiau cyfleusterau awyr agored newydd ar gyfer datblygiadau tai arfaethedig
Dydd Iau 22 Mai 2025
Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) drafft ar gyfer Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored, sy'n darparu cyfarwyddyd cynllunio ar gyfer mannau hamdden awyr agored a chyfleusterau sy'n gysylltiedig â datblygiadau preswyl newydd.
Mae'r CCA yn cynnig arweiniad pellach ar y Polisi Darparu Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored o'r Cynllun Datblygu Lleol newydd, a fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2024.
Mae'r polisi yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr ddarparu swm penodol o ofod hamdden i gyd-fynd â maint y datblygiad tai arfaethedig. Mae hyn yn sicrhau nad oes gormod o bwysau ar gyfleusterau cyhoeddus presennol, a bod cymunedau cynaliadwy hirdymor yn cael eu creu, lle gall pawb gael mynediad at fannau hamdden a chyfleusterau o safon.
Mae'r CCA wedi'i alinio â'r safonau 'Meysydd Chwarae Cymru', sydd wedi dod yn feincnod a argymhellir ar gyfer darparu gofod hamdden a chyfleusterau.
Mae'r canllawiau’n canolbwyntio'n bennaf ar bum math o weithgaredd hamdden, ac maent yn cynnwys cymorth o ran eu dylunio, dyrannu gofod mewn perthynas â maint y datblygiad, yn ogystal â chymorth costio. Amlinellir yr amrywiaeth o gyfleusterau isod:
- Caeau chwarae (1.2 hectar fesul 1,000 o bobl), yn cynnwys ardaloedd sydd wedi'u marcio ar gyfer gweithgareddau fel pêl-droed, rygbi'r undeb/cynghrair a chriced.
- Chwaraeon awyr agored eraill nad ydynt yn digwydd ar gae (1.6 hectar fesul 1,000 o bobl), megis cyrtiau tenis, lawntiau bowlio a thraciau athletau.
- Ardaloedd chwarae gyda chyfarpar (0.25 hectar fesul 1,000 o bobl).
- Darpariaeth awyr agored arall (0.3 hectar fesul 1,000 o bobl), sy'n cyfeirio at gyfleusterau chwaraeon nad ydynt wedi'u cynnwys yn y categorïau uchod, megis ardaloedd gemau aml-ddefnydd a pharciau sglefrio.
- Darpariaeth rhandiroedd (0.2 hectar fesul 1,000 o bobl).
Mae'r CCA yn trosi hectarau fesul 1,000 o bobl yn fetrau sgwâr fesul annedd i alluogi swyddogion a datblygwyr i gyfrifo'r gofyniad gofodol ar y safle.
Mewn achosion lle nad yw'r datblygiad arfaethedig yn gallu darparu ar gyfer y swm gofynnol o ofod hamdden ar y safle, gellir defnyddio cyfraniadau ariannol gan y datblygwr - yn cyfateb i'r gost o ddarparu'r cyfleusterau angenrheidiol ar y safle - i gefnogi neu wella'r ddarpariaeth mewn mannau eraill yng nghyffiniau'r datblygiad.
Yn ogystal, mae'r CCA yn helpu i gyfrifo costau cynnal cyfleusterau ar y safle ac oddi ar y safle dros gyfnod o 25 mlynedd. Bydd hyn yn helpu’r awdurdod lleol wrth geisio cyfraniadau cynllunio i dalu am gost darparu a chynnal a chadw cyfleusterau hamdden ledled y fwrdeistref sirol.
"Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dylanwadu ar siâp terfynol y CCA, a fydd wedyn yn cael ei anfon ymlaen i'r Cabinet a'r Cyngor i'w gymeradwyo. "Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CCA terfynol yn helpu gyda dehongli a chymhwyso’r Polisi Darpariaeth Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored, yn rhoi cyngor manylach i ymgeiswyr cynllunio, a bydd yn dod yn ystyriaeth sylweddol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. "Mae'r CCA Cyfleusterau Hamdden Awyr Agored yn hanfodol wrth sicrhau ein bod yn parhau i gynnig darpariaeth hamdden o ansawdd uchel, cynhwysol a hygyrch ledled y fwrdeistref sirol. Bydd yn helpu i gefnogi iechyd a lles preswylwyr a bydd yn mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd sy'n gysylltiedig â chael mynediad i fannau hamdden awyr agored."