Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cyhoeddi gofod dros dro ym Marchnad Maesteg

Dydd Iau 24 Ebrill 2025

Mae tîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llawn cyffro i gyhoeddi menter newydd sbon wedi'i chynllunio i gefnogi busnesau newydd lleol, pobl greadigol a grwpiau cymunedol yng nghanol Maesteg.

Mae'r fenter newydd hon, o'r enw "For a Limited Time Only...?", yn darparu mynediad byrdymor i Uned 14 ym Marchnad Maesteg. Mae'r gofod yn cynnig cyfle unigryw i unigolion a busnesau arbrofi gyda syniadau, arddangos eu cynnyrch, mewn lleoliad amlwg, heb unrhyw gost iddyn nhw.

Yn targedu gwneuthurwyr, busnesau bach, mentrau cymdeithasol, a phobl greadigol ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle iddyn nhw gamu i mewn i amgylchedd cyhoeddus heb lawer o risg.

Mae Marchnad Maesteg wedi bod yn ganolfan hirsefydlog o gymunedau creadigol, ac mae'r fenter hon yn rhoi bywyd newydd i'r traddodiad hwnnw. Trwy gynnig y gofod dros dro hwn, lle gall creadigrwydd ac entrepreneuriaeth ffynnu heb rwystrau ariannol, rydym nid yn unig yn cefnogi ein doniau lleol ond hefyd yn cyfoethogi gwead diwylliannol ac economaidd ein tref. "Rwy'n edrych ymlaen at weld y syniadau arloesol fydd yn dod yn fyw gan fusnesau Maesteg yn yr amgylchedd cyffrous hwn.

Mae’r Cyngor bellach yn derbyn Datganiadau o Ddiddordeb ac yn annog unigolion a grwpiau sydd â diddordeb mewn defnyddio'r gofod i lenwi ffurflen datganiad o ddiddordeb fer.

Bydd y gofod dros dro yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd ddydd Llun 12 Mai 2025 a bydd yn rhedeg am gyfnod o chwe mis. Mae pob gofod dros dro, p’un ai ei fod am un diwrnod neu wythnos gyfan, yn addo cyflwyno rhywbeth newydd i'r farchnad, gan wella bywiogrwydd canol y dref a helpu'r economi leol.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Chwilio A i Y

Back to top