Cyngor tywydd poeth wedi'i gyhoeddi gyda disgwyl i'r tymheredd godi

Dydd Gwener 22 Mai 2026

Gyda rhagolygon y bydd ton wres yn taro Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros benwythnos gŵyl banc y gwanwyn, mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i gofio ychydig o reolau syml a fydd yn eu helpu i gadw'n ddiogel ac yn iach.

•    Yfed digon o ddŵr: Cofiwch yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd. Osgowch alcohol, caffein, a diodydd llawn siwgr oherwydd gallan nhw eich dadhydradu.

•    Amddiffyn rhag yr haul: Defnyddiwch eli haul SPF 30 o leiaf, gwisgwch ddillad golau, llac, a gwisgwch het lydan a sbectol haul.

•    Grwpiau sy'n agored i niwed: Cofiwch wneud yn siŵr bod pobl hŷn, plant ifanc a phobl â chyflyrau iechyd isorweddol yn aros yn oer braf ac wedi’u hydradu.

•    Sylwi ar yr arwyddion: Byddwch yn ymwybodol o symptomau gorflinder gwres a thrawiad gwres. Os yw rhywun yn dangos arwyddion o ddryswch, yn stopio chwysu neu os oes ganddo dymheredd corff peryglus o uchel, ffoniwch 999.

•    Cynllunio gweithgareddau awyr agored: Cynlluniwch weithgareddau fel teithiau cerdded, ymarfer corff, garddio ac ati yn gynharach yn y bore neu'n hwyrach yn y prynhawn a'r nos.

•    Diogelwch dŵr: Byddwch yn ymwybodol o sioc dŵr oer a risgiau boddi.

•    Anifeiliaid anwes: Sicrhewch fod gan anifeiliaid anwes ddŵr ffres, nad ydyn nhw allan am gyfnodau hir, na'n cael eu gadael mewn ceir llonydd.

Os ydych chi'n ymweld â'r arfordir, cofiwch y bydd patrolau achubwyr bywyd RLNI ar waith bob dydd yn Rest Bay, Traeth Coney, Sandy Bay a Trecco Bay. Gofynnwn i chi nofio a chorff-fyrddio rhwng y baneri coch a melyn, a syrffio neu ddefnyddio caiacau a phadlfyrddau rhwng y baneri du a gwyn.

Gellir defnyddio beiciau dŵr fel Jet Skis yn ardal Bae Newton, ond byddwch yn ymwybodol o bobl eraill sydd yn neu ar y dŵr. Dylai unrhyw un sy'n cael anawsterau wrth nofio orwedd ar eu cefn yn unol â chanllawiau ‘Arnofio i Fyw’, ymlacio, a gwrthsefyll yr awydd i daflu’r breichiau o gwmpas.

Osgowch nofio ar draws sianel fynediad Marina Porthcawl a deifio neu neidio o'r morglawdd gan y gall dyfnder y dŵr amrywio yn dibynnu ar y llanw. Os gwelwch nofiwr mewn trafferth, ffoniwch 999 neu 112 mewn argyfwng a gofynnwch am Wylwyr y Glannau – mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan yr RNLI.

Mae croeso i gŵn drwy gydol y flwyddyn ar Draeth Newton, Pink Bay a Thraeth y Sgêr, ond nid yn Rest Bay, Traeth y Dref, Traeth Coney a Trecco Bay tan ar ôl 30 Medi. Gyda mwy na 200 o finiau sbwriel wedi'u lleoli ledled y dref, cofiwch roi baw cŵn mewn bag bob amser, a chael gwared arno yn gyfrifol.

Meddyliwch ddwywaith cyn tanio barbeciw tafladwy ar y traeth oherwydd gall y rhain aros yn boeth am sawl awr ar ôl eu defnyddio. Gallwch oeri’r glo gyda dŵr môr, a rhoi’r cynhwysydd yn un o'r biniau barbeciw gwrth-dân newydd sydd wedi'u gosod mewn lleoliadau allweddol ar lan y môr. Ni ddylid claddu glo barbeciw poeth o dan dywod na'i dywallt ar greigiau o dan unrhyw amgylchiadau.

“Gan fod y Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau bod disgwyl ton wres dros benwythnos gŵyl y banc a dechrau'r wythnos nesaf, mae'n bwysig sicrhau nad yw aelodau o'r teulu, ffrindiau, cymdogion ac anifeiliaid anwes yn dioddef unrhyw effeithiau andwyol. “Mae arfordir Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig sawl traeth syfrdanol ac mae'n gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr, twristiaid a thrigolion. Rydyn ni’n croesawu pob ymwelydd sy'n ymddwyn yn gyfrifol, sydd ddim yn peryglu eraill, sy'n glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes ac sy'n rhoi eu sbwriel yn y bin neu'n mynd ag e adref gyda nhw. “Mae sefydliadau fel yr RNLI, Gwylwyr y Glannau Cenedlaethol, Achubwyr Bywyd Porthcawl, Cyngor Tref Porthcawl, Surfers Against Sewage, Cadwch Gymru'n Daclus a grwpiau gwirfoddol cymunedol i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau y gallwn fwynhau'r arfordir, a hoffwn ddiolch iddyn nhw i gyd am helpu pobl i gadw'n ddiogel ar lan y môr.”

Chwilio A i Y

Back to top