Cyngor ynghylch y tywydd poeth i glybiau chwaraeon lleol

Dydd Iau 13 Awst 2026

Wrth i gyfnod arall o wres mawr daro'r DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog clybiau chwaraeon lleol i gymryd gofal ychwanegol ac i gynllunio ymlaen llaw yn ystod y tywydd poeth.

Mae'n dilyn cyngor gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â phryderon y gallai chwaraewyr ddioddef o'r tymheredd uchel neu gael eu hanafu os ydynt yn chwarae, gwneud ymarferion corff neu ymarfer ar dir sydd wedi'i galedu gan yr haul a diffyg glaw.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd i glybiau, hyfforddwyr, swyddogion gemau, gwirfoddolwyr a chwaraewyr yn cynnwys gwirio rhagolygon tywydd y Swyddfa Dywydd cyn pob gêm, sesiwn hyfforddi neu weithgareddau eraill, a sicrhau bod dŵr yfed, eli haul ac ardaloedd cysgodol fel gazebos neu stondinau ar gael.

Mae chwaraewyr, gwylwyr a rhieni hefyd yn cael eu hatgoffa o fesurau diogelwch haul sylfaenol, ac mae clybiau wedi cael eu cynghori i gadw sesiynau cynhesu yn briodol fyr, i gynyddu cyfnodau gorffwys a seibiant, i wneud mwy o ddefnydd o is-chwaraewyr, i wylio am unrhyw arwyddion o straen gwres ymhlith chwaraewyr, ac i ystyried symud sesiynau i rannau llai poeth o'r dydd.

Mae FA Cymru hefyd wedi cynghori clybiau chwaraeon i ddilyn y patrwm canlynol:

  • 30°C:  Stopio gweithgareddau iau a gosod rheolaethau llym ar gyfer gweithgarwch oedolion
  • 27°C - 29°C: Gweithredu seibiannau gorfodol i osgoi gordwymo, amserlenni llai dwys, cysgodi a monitro
  • 24°C - 26°C: Rhowch fwy o ffocws ar hydradiad a lleihau llwythi
  • -24°C:  Rhoi rhagofalon safonol ar waith
Gyda rhybudd gwres eithafol ambr ar gyfer llawer o'r DU a rhagolygon y bydd y tymheredd yn cyrraedd mor uchel â 33 gradd yn lleol, rydyn ni’n annog clybiau chwaraeon lleol i gynllunio ymlaen llaw, ac i gymryd camau a rhagofalon priodol. Yn ogystal â’r pryderon iechyd sy’n deillio o dymheredd uchel, mewn llawer man mae'r gwres hefyd wedi achosi i'r pridd ar gaeau chwaraeon a chaeau lleol fynd yn galed iawn, felly byddwch yn ofalus os ydych chi'n cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgareddau hyfforddi. Mae'n rhaid i les chwaraewyr ddod yn gyntaf, ac mae'n dda gweld bod sefydliadau fel FA Cymru ac URC yn blaenoriaethu hyn ac yn cyhoeddi canllawiau i glybiau lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefannau FA Cymru ac Undeb Rygbi Cymru Gellir dod o hyd i gyngor cyffredinol ar gyfer delio â gwres mawr a thymheredd uchel hefyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Chwilio A i Y

Back to top