Cynllun rhyddhad ardrethi i barhau i gefnogi busnesau cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun 07 Ebrill 2025

Bydd hyd at 780 o fusnesau lleol yn gymwys unwaith eto ar gyfer cymorth ardrethi busnes ar ôl i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gytuno i fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26.

Mae’r ceisiadau ar agor bellach ar gyfer 2025/26  - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Bydd busnesau cymwys yn elwa o ostyngiad o 40% oddi ar eu bil ardrethi busnes. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws pob eiddo mae’r un busnes yn eu dal ledled Cymru.

Rhaid i’r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, marchnadoedd, fferyllfeydd, optegyddion, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd angen iddynt hefyd ddatgan na fyddant yn derbyn mwy na £315,000 o gymorth mewn Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA), rhwng blynyddoedd ariannol 2023/24 a 2025/26 yn gynwysedig.

Mae busnesau nad ydynt yn gymwys yn cynnwys casinos, cenels a chathdai, meithrinfeydd dydd a gwasanaethau meddygol ac ariannol. Mae meini prawf cymhwysedd manwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

“Mae’n braf gwybod y bydd y cymorth hanfodol yma’n parhau i fod ar gael i amrywiaeth o fusnesau ar draws y fwrdeistref sirol diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. “Nid yw’r cyngor yn gyfrifol am bennu ardrethi busnes, ond mae awdurdodau lleol yn gweinyddu’r cymorth hanfodol yma ar ran Llywodraeth Cymru. Fe hoffwn i annog pob busnes i wirio a ydyn nhw’n gymwys ac i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n colli’r cyfle i dderbyn y cymorth yma sydd i’w groesawu.”

Mae’r cynllun yn cael ei gyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru a bydd ar gael o 1 Ebrill 2025 tan 31 Mawrth 2026.

Chwilio A i Y

Back to top