Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Cynlluniau'n mynd rhagddynt ar gyfer hwb gofal plant cyfrwng Cymraeg Betws
Dydd Llun 18 Medi 2023
Cyn bo hir, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd allan i dendro i bennu darparwr i redeg y cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ym Metws.
Mae'r hwb Cymraeg newydd, a adeiladwyd ar hen safle'r Clwb Bechgyn a Genethod ym Metws, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg, sydd hefyd yn cynnwys sefydlu cyfleusterau ym Melin Ifan Ddu, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.
Bydd y ddarpariaeth yn cynnig 16 o leoedd gofal plant cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â chwe lle ar gyfer plant ifanc hyd at ddwyflwydd oed. Wrth i'r ddarpariaeth ddatblygu, mae'n bosib y bydd gofal plant y tu allan i oriau ysgol ar gael, a bydd y cyfleuster yn gweithredu am hyd at 51 wythnos y flwyddyn.
Mae'r safle'n cynnwys man chwarae a dysgu newydd, ystafelloedd tawel, cyfleusterau storio, cegin, swyddfa a maes parcio gyda lle i saith cerbyd. Mae'r ardal o flaen ac ar ochr yr adeilad wedi cael ei thirlunio ac yn cynnwys cyfleusterau chwarae arwyneb meddal a chanopi a fydd yn darparu cysgodfa i blant a staff.
Mae dogfennau tendro'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd a byddant yn cael eu cyhoeddi'n eang yr hanner tymor hwn. Bydd yr adeilad newydd sbon, addas i'r pwrpas yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg, o safon uchel, i gymuned leol Betws a'r fwrdeistref sirol gyfan. Mae'n adeg hynod gyffrous!