Cynnydd cryf ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr
Dydd Gwener 25 Medi 2026
Mae'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, cyfraddau pontio gwell a buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd ymhlith uchafbwyntiau adroddiad cynnydd diweddaraf Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA).
Mae'r adolygiad blynyddol, sy'n cwmpasu blwyddyn academaidd 2025-2026, yn dangos cynnydd parhaus ym mhob un o'r saith canlyniad statudol o CSCA 2022-2032 y Cyngor, sy'n nodi ei gynlluniau hirdymor i gefnogi ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg.
Un o'r datblygiadau mwyaf calonogol yw'r cynnydd yn y galw ymhlith plant iau. Cynyddodd cyfran y plant tair oed sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 9.74 y cant i 10.32 y cant, gyda 164 o blant yn cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod 2025-26.
Cynyddodd cyfran y plant oedran Derbyn sy'n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn sylweddol hefyd, o 6.96 y cant yn 2025 i 10.08 y cant yn 2026. Mae yna 158 o geisiadau meithrin wedi’u cyflwyno yn barod ar gyfer Medi 2026, gyda'r ffenestr ymgeisio yn dal ar agor.
Mae'r Cyngor yn cynyddu capasiti i ateb y galw hwn, gan gynnwys cynyddu nifer y lleoedd Meithrin i 71 yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr o fis Medi 2026 ac agor Blodeuol, canolfan gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd yn y Betws.
Mae buddsoddiad mawr hefyd yn cefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer y dyfodol. Mae'r egin ysgol cyfrwng Cymraeg £5.4 miliwn ym Mhorthcawl, ochr yn ochr â'i chanolfan gofal plant gwerth £971,000, wedi sicrhau cymeradwyaeth gynllunio, gyda'r gwaith adeiladu’n mynd rhagddo gyda’r gobaith o’i gwblhau ym mis Mehefin 2027.
Mae cynlluniau hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg 10 dosbarth mynediad ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i'w chynnwys yn y Rhaglen Amlinellol Strategol a chymeradwyaeth y Cyngor i brynu safle canolog.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gyfradd pontio ragorol o 100% o addysg gynradd i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg, gyda phob un o'r 109 o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn symud i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ym mis Medi 2025.
Mae cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth hefyd yn cynyddu, gyda'r holl ysgolion yn cymryd rhan yn y fframweithiau Siarter Iaith a Cymraeg Campus a 12 ysgol yn cyflawni gwobrau yn ystod y flwyddyn. Cymerodd dros 550 o ddisgyblion ran yn Jambori yr Urdd.
"Mae'n wych gweld cynnydd mor gadarnhaol wrth gyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gyda mwy o deuluoedd yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg a nifer cynyddol o blant yn elwa o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio'r Gymraeg. "Mae'r cynnydd yn y galw yn arbennig o galonogol ac yn dangos cryfder addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. "Rydyn ni’n buddsoddi ar gyfer y dyfodol gyda gofal plant a lleoedd ysgol newydd, prosiectau cyfalaf mawr a chynlluniau ar gyfer mwy o ddarpariaeth uwchradd. Er bod mwy i'w wneud o hyd, mae'r adroddiad hwn yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd cryf tuag at ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg."
Mae'r cyngor yn parhau i baratoi i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, sy'n cryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg ac yn cefnogi uchelgeisiau’r Strategaeth Cymraeg 2050.
Mae'r adolygiad blynyddol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a gofynnir i'r Cabinet nodi'r cynnydd a wnaed wrth weithredu CSCA 2022-2032.