Cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda gwaith adfer inswleiddio waliau Caerau

Dydd Iau 20 Tachwedd 2025

Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud gyda gwaith adfer inswleiddio waliau Caerau ac mae pob eiddo cofrestredig cymwys bellach wedi cael gwared ar yr inswleiddio blaenorol. 

Mae cam olaf y cynllun nawr ar y gweill ac yn dilyn cyfnod sychu, bydd yr holl eiddo yn cael eu cwblhau'n raddol trwy gydol y misoedd nesaf, gyda rendro neu inswleiddio newydd yn cael ei osod yn unol â safonau achrededig cenedlaethol. 

Yn ôl yn 2012/13, derbyniodd tua 104 o eiddo inswleiddio diffygiol o dan ddau gynllun gwahanol. Roedd 79 eiddo yn rhan o raglen CESP Llywodraeth y DU a 25 o dan Gynllun Arbed Llywodraeth Cymru. Nid oedd gan y cyngor unrhyw gysylltiad â chynllun CESP Llywodraeth y DU ond estynnwyd y cymhwysedd ar gyfer y rhaglen adfer bresennol i gefnogi cymaint o breswylwyr â phosibl. 

Mae cyfres o asesiadau ac arolygon wedi cael eu cynnal ym mhob eiddo unigol ac mae'r gwaith adfer wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion a gofynion pob eiddo. 

"Mae cael gwared ar yr holl inswleiddio annigonol o eiddo cofrestredig yn garreg filltir bwysig yn y prosiect hwn a byddwn yn diolch i berchnogion yr holl eiddo am eu cydweithrediad trwy gydol y cynllun. "Nid yw hwn yn brosiect lle mae’r un peth yn addas i bawb ac mewn partneriaeth â'n contractwyr Warmworks, mae’r holl gamau angenrheidiol wedi'u cymryd i sicrhau bod y gwaith ym mhob eiddo yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol a chydymffurfiol â phosibl."
"Mae ymgysylltu â phreswylwyr wedi bod yn ganolog i'r prosiect gwaith adfer hwn ac ers 2023, mae gwasanaeth cyswllt â phreswylwyr wedi bod ar waith i ddarparu sesiynau galw heibio wythnosol, cyfarfodydd preswylwyr, cylchlythyrau a'r gallu i gysylltu â swyddog cyswllt i drafod unrhyw ymholiadau yn ôl yr angen. "Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwaith adfer, hoffwn annog pob preswylydd i ddilyn unrhyw gyngor gan y contractwr."

Chwilio A i Y

Back to top