Cysgodfan Fysys newydd y tu allan i Lyfrgell Porthcawl

Dydd Mercher 07 Mai 2025

Bydd teithwyr yn gallu manteisio ar gysgodfan fysys newydd sydd i'w lleoli'n gyfleus y tu allan i Lyfrgell Porthcawl yn Stryd yr Eglwys, Porthcawl.

Bydd y gysgodfan newydd yn cael ei gosod ar 8 Mai gan Bus Shelters Ltd, ychydig fetrau o'r safle bws presennol, lle mae'r llwybr troed yn rhy gul ar gyfer cysgodfan.  

Yn y lleoliad arfaethedig, bydd dau bolard yn cael eu tynnu y tu allan i'r llyfrgell er mwyn gallu adeiladu'r gysgodfan newydd oddi ar y prif balmant.

Bydd y gysgodfan yn 3m o hyd a bydd seddi pwyso ynddi, a phaneli clir bob pen i sicrhau cymaint o gysgod â phosib i bobl fydd yn aros am fws. 

"Mae hyn yn newyddion da i ddefnyddwyr gwasanaeth bysys.   Rydyn ni i gyd yn gwybod mor ddefnyddiol mae cysgodfeydd wrth aros am drafnidiaeth gyhoeddus, yn cynnwys lle i orffwys a lloches rhag yr elfennau, yn enwedig yn lleoliad glan môr Porthcawl. "Ni fydd y fan newydd yn effeithio ar y prif lwybr troed ac mae digon o le yno i fysys symud yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael.   Edrychwn ymlaen at yr elfen newydd hon o’r system drafnidiaeth gyhoeddus ym Mhorthcawl!" 

Chwilio A i Y

Back to top