Cytunwyd ar y camau cyntaf tuag at ymestyn mynediad yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 24 Medi 2025

  • Bydd mannau ychwanegol yn cael eu creu ar gyfer gyrwyr anabl a deiliaid Bathodyn Glas
  • Bydd mwy o feicio yn cael ei ganiatáu o fewn y parth cerdded
  • Bydd yr oriau llwytho a dadlwytho yn cael eu hymestyn
  • Bydd mynediad yn ystod digwyddiadau yng nghanol y dref ac yn ystod argyfyngau yn cael mwy o hyblygrwydd

Heddiw (dydd Mawrth 24 Medi) mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer newid y rheolau ar fynediad i strydoedd i gerddwyr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o orchymyn traffig arbrofol newydd.

O dan y cynigion, bydd oriau llwytho a dadlwytho yn cael eu hymestyn tan cyn 11am ac ar ôl 4pm, a bydd y safleoedd tacsis presennol ar Derwen Road sy'n cael eu tanddefnyddio ar hyn o bryd yn cael eu haddasu i sefydlu mannau parcio ychwanegol ar gyfer deiliaid bathodyn glas.

Yn amodol ar asesiad diogelwch, caniateir mwy o feicio yn yr ardal i gerddwyr, a bydd trefniadau hefyd yn cael eu rhoi ar waith i symleiddio mynediad i ganol y dref yn ystod digwyddiadau ar raddfa fawr neu ddigwyddiadau brys.

Cytunwyd ar y newidiadau yn dilyn canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar a ddenodd gyfanswm o 760 o ymatebion. O'r rhain, roedd 60 y cant yn cefnogi oriau llwytho a dadlwytho estynedig, roedd 56 y cant yn cytuno â chaniatáu beicio yn yr ardal i gerddwyr, a 64 y cant yn cefnogi parcio ychwanegol i ddeiliaid Bathodyn Glas ar Derwen Road.

 

"Rydym wedi gwrando ar adborth y cyhoedd o'r ymgynghoriad ac wedi cymeradwyo cynnig i'r Cyngor ar y ffordd y gellir ailgyflwyno traffig yn rhannol. "O ganlyniad, bydd gorchymyn traffig arbrofol nawr yn cael ei weithredu gan swyddogion er mwyn darparu ar gyfer y newidiadau. Bydd hyn yn ei le am y 18 mis nesaf, ac yn ystod y cyfnod hwnnw byddwn yn monitro'r sefyllfa yn ofalus ac yn dadansoddi'r canlyniadau. "Mae diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn brif bryder yn y mater hwn, ac er bod Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod i'r casgliad y dylid archwilio opsiynau ar gyfer mynediad gwell i ganol y dref yn dilyn newidiadau mewn polisi a chanllawiau cenedlaethol, bydd angen i ni fynd i'r afael â'r mater mewn nifer o gamau wedi eu rheoli yn ofalus. "Yn hynny o beth, y gorchymyn traffig arbrofol yw’r cam cyntaf tuag at adfer elfennau o fynediad i gerbydau a beiciau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr."
Lluniau o strydoedd i gerddwyr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Lluniau o strydoedd i gerddwyr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y

Back to top