Darganfyddwch sut i ddod yn gynghorydd mewn sesiynau am ddim
Dydd Iau 24 Medi 2026
Gydag etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal ym mis Mai 2027, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu sesiynau darpar ymgeiswyr lle gall preswylwyr ddarganfod mwy am ddod yn gynghorydd a sefyll mewn etholiad.
Yn digwydd rhwng 6pm ac 8pm ddydd Mawrth 13 Hydref a dydd Mercher 14 Hydref, mae'r sesiynau am ddim wedi'u trefnu i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac i ledaenu ymwybyddiaeth o rolau aelodau etholedig.
Bydd pob sesiwn yn edrych ar yr hyn mae rôl cynghorydd yn ei gynnwys a swyddogaethau'r awdurdod lleol cyn tynnu sylw at y broses ar gyfer y ffordd y gall rhywun ddod yn ymgeisydd a sefyll mewn etholiad.
Mae'r sesiynau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n ystyried sefyll fel cynghorydd. Mae bod yn aelod etholedig yn agored i unrhyw un dros 18 oed sydd ar y gofrestr etholiadol ac sydd wedi byw, gweithio neu wedi bod yn berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am y 12 mis diwethaf o leiaf. Os ydych chi'n angerddol am eich cymuned leol, eisiau sbarduno newid cadarnhaol, ac â’r gallu i wneud penderfyniadau heriol, yna bydd sesiynau darpar ymgeiswyr yn rhoi cipolwg gwerthfawr i chi ar yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn gynghorydd, a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i ddod yn ymgeisydd yn yr etholiad i ddod.
Gan fod lleoedd yn y digwyddiad yn gyfyngedig, mae cadw lle ymlaen llaw yn hanfodol - dewiswch pa ddyddiad yr hoffech chi fynychu ac e-bostiwch membersbcbc@bridgend.gov.uk