Dathlu effaith gadarnhaol y gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion yn dilyn arolygiad diweddar
Dydd Iau 30 Gorffennaf 2026
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu ymroddiad a phroffesiynoldeb ei weithlu gofal cymdeithasol i oedolion ar ôl i bob un o'i bedwar cartref gofal preswyl dderbyn canlyniadau arolygu cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Mae'r arolygiadau diweddaraf yn tynnu sylw at y safonau gofal cyson uchel sy'n cael eu darparu ar draws gwasanaethau preswyl y cyngor, gyda sgoriau 'Da' wedi'u cyflawni ar draws pob maes arolygu yn Nhŷ Ynysawdre, Tŷ Cwm Ogwr a Thŷ Llwynderw. Cyflawnodd Bryn y Cae sgôr ‘Rhagorol’ ar gyfer Lles – y sgôr uchaf posibl – ochr yn ochr â sgorau ‘Da’ ar gyfer Gofal a Chymorth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, a'r Amgylchedd.
Mae'r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad, tosturi a phroffesiynoldeb y timau sy'n cefnogi preswylwyr bob dydd, gan helpu pobl i fyw gydag urddas, annibyniaeth a hyder a darparu sicrwydd a chefnogaeth i'w teuluoedd.
Mae'r arolygiadau yn cydnabod ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu a'r dull person-ganolog a gymerir gan staff, gyda ffocws cryf ar hyrwyddo lles, parchu dewis unigol a darparu gofal diogel o ansawdd uchel mewn amgylcheddau croesawgar.
Mae'r cyflawniadau hefyd yn adlewyrchu buddsoddiad parhaus y cyngor mewn dulliau arloesol o ofal, gan gynnwys technoleg gynorthwyol, datrysiadau digidol a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i esblygu ac yn diwallu anghenion newidiol pobl.
Mae pob aelod o'r gweithlu - o gynorthwywyr gofal, gweithwyr cymorth a chydlynwyr gweithgareddau i reolwyr, staff arlwyo, domestig a chynnal a chadw - yn chwarae rhan hanfodol wrth greu canlyniadau cadarnhaol i breswylwyr a'u hanwyliaid.
"Mae'r canlyniadau arolygu hyn yn rhywbeth y dylai pawb sy'n ymwneud â'n gwasanaethau gofal preswyl fod yn hynod falch ohonynt. Mae cyflawni sgôr ‘Da' ym mhob un o'n pedwar cartref gofal, ochr yn ochr â sgôr 'Rhagorol' ar gyfer Lles ym Mryn y Cae, yn adlewyrchu'r ymrwymiad a'r tosturi eithriadol y mae ein staff yn eu dangos bob dydd. Y tu ôl i bob canlyniad arolygu mae pobl ymroddedig sy'n mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn y safonau gofal uchaf, cefnogaeth a pharch. Maent yn datblygu ymddiriedaeth, yn creu cyfleoedd i bobl fod yn egnïol ac yn gysylltiedig, ac yn helpu preswylwyr i fyw bywydau yn llawn boddhad, gydag urddas ac annibyniaeth. Hoffwn ddiolch i bob aelod o'n gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion am eu proffesiynoldeb, eu caredigrwydd a'u hymrwymiad diwyro. Mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, nid yn unig i fywydau preswylwyr ond hefyd i'w teuluoedd a'r gymuned ehangach. Mae'r canlyniadau arolygu hyn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'r gofal rhagorol maen nhw'n ei ddarparu."
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi a buddsoddi yn ei weithlu gofal cymdeithasol i oedolion, gan sicrhau bod preswylwyr yn parhau i dderbyn gofal tosturiol o ansawdd uchel nawr ac yn y dyfodol.
Mae'r cyngor yn estyn ei ddiolch diffuant i bob aelod o staff am y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud bob dydd. Mae eu hymroddiad yn parhau i sicrhau bod lles preswylwyr y fwrdeistref sirol yn ganolog i bopeth maen nhw'n ei wneud.