Dathlu llwyddiant darpariaeth newydd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol

Dydd Mercher 11 Mehefin 2025

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ill dwy ym Maesteg, yn dathlu llwyddiant darpariaeth newydd sydd wedi cefnogi disgyblion ysgolion cynradd ag anawsterau dysgu cymedrol i bontio i’r ysgol gyfun.

Ym mis Tachwedd 2023, sefydlwyd y ganolfan adnoddau gyntaf ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol (ADC) yn Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant, gan gefnogi dysgwyr rhwng saith ac 11 oed sydd â diagnosis ffurfiol gan y sir, yn ogystal â'r disgyblion hynny sydd angen cymorth ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg o bryd i’w gilydd. Cyn hyn, derbyniodd plant ag ADC gefnogaeth ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd.

Datblygwyd llu o strategaethau ar gyfer y pedwar dysgwr Blwyddyn 6 yn y cyfleuster ADC mewn ymgais i'w paratoi ar gyfer symud i’r ysgol gyfun yn y mis Medi canlynol, gan gynnwys cyfarfodydd tymhorol yn yr ysgol uwchradd, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Ym mis Medi 2024, cyflwynodd Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ddarpariaeth ‘Y Bont’, gan gynnig cymorth ychwanegol i ddysgwyr ag ADC i sicrhau bod gwersi prif ffrwd yn hygyrch. Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, mae pob un o’r dysgwyr ym Mlwyddyn 7 wedi mynychu gwersi prif ffrwd bob dydd gydag aelod o staff cymorth ar gael yn y mwyafrif o'r sesiynau, ac wedi cael cymorth ychwanegol yn Y Bont i gefnogi sgiliau craidd ac anghenion cymdeithasol.

Dywedodd mam-gu un o’r plant: "Roedd fy ŵyr yn bryderus am symud i Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ond fe wnaeth y cydweithrediad a’r gefnogaeth rhwng uned Cynwyd Sant a staff Y Bont sicrhau pontio esmwyth

"Mae'n hapusach o lawer oherwydd yr hyder newydd mae wedi’i fagu. Mae'r gefnogaeth mae'n ei dderbyn gan staff Y Bont wedi bod yn hanfodol i ddatblygu ei annibyniaeth. Mae bellach wrth ei fodd yn mynd i siopa a gwario fy mhunnoedd!"

Ychwanegodd rhiant un o'r disgyblion: "Mae’r Bont yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd wedi bod yn dda iawn i fy mhlant. Mae wedi bod yn hollbwysig yn ystod y cyfnod o bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol gyfun. Mae'r ddau wedi ennill hyder wrth integreiddio i wersi prif ffrwd sy'n golygu eu bod yn llwyddo mewn addysg uwchradd gyda chefnogaeth ardderchog gan staff."

Soniodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant, Sarah Gwen Richards, am effaith yr uned ADC yn yr ysgol gynradd: "Rydym wrth ein bodd yn gweld llwyddiant ein huned ADC cyfrwng Cymraeg newydd, sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i fywydau ein disgyblion.

"Trwy gynnig cymorth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg, rydym nid yn unig yn diwallu anghenion unigol ein dysgwyr, ond hefyd yn hybu cynhwysiant ac yn meithrin ymdeimlad cryf o hunaniaeth ddiwylliannol. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at yr addysg maen nhw'n ei haeddu, yn yr iaith o'u dewis."

Darpariaeth Y Bont yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Ychwanegodd Lisa Woodrow, Dirprwy Bennaeth a Chydlynydd ADY Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd: "Wrth ddatblygu ein darpariaeth ADY ymhellach a sefydlu’r Bont eleni, rydym yn falch iawn o weld y dysgwyr yn datblygu i fod yn unigolion uchelgeisiol, hyderus sy'n awyddus i wneud cynnydd ac sy'n aelodau gwerthfawr o Dîm Llan."

"Mae hon yn stori wych o lwyddiant ac yn un sy'n paratoi'r ffordd i ddysgwyr ag ADC mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol. "Mae llwyddiant y broses bontio benodol hon yn ganlyniad i’r cydweithredu agos rhwng y ddwy ysgol. Mae'r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig gan gydweithwyr i rieni a gofalwyr, ac yn enwedig i'r dysgwyr, wedi galluogi'r cam hwn i fynd yn ei flaen gyda sensitifrwydd a gofal. "Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyfrannodd! Edrychaf ymlaen at weld sut mae'r system ADC hon yn cael ei hymgorffori fwyfwy yng ngwead yr ysgol wrth i amser fynd yn ei flaen."

Chwilio A i Y

Back to top