Dathlu ymdrechion rhanbarthol sy'n targedu troseddau cyllyll ymhlith pobl ifanc
Dydd Iau 29 Mai 2025
Dathlodd yr ymgyrch Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Cyllyll ddiweddar, 19 - 25 Mai, y gwaith cydweithredol hanfodol sy’n mynd i'r afael â'r broblem barhaus a chymhleth hon ar draws y fwrdeistref sirol a thu hwnt.
Mae Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf, ochr yn ochr â Heddlu De Cymru, wedi cydweithio i dargedu troseddau cyllyll a hyrwyddo atal trais drwy weithdai addysgol, cyfraniadau gan wirfoddolwyr, yn ogystal â sesiynau atal trais un i un lle bo hynny'n briodol.
Mae'r gwirfoddolwr John Davey wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r Cynllun Atal Trais Difrifol a sefydlwyd gan Heddlu De Cymru a'r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid (GCI). Ochr yn ochr â’r heddweision PC Nigel Bird, PC Ian Watts a PC Sally Lloyd, mae John Davey, sydd ei hun wedi dioddef trosedd cyllell, yn rhannu ei stori mewn ysgolion ledled y rhanbarth mewn ymdrech i addysgu disgyblion am beryglon a chanlyniadau difrifol troseddau cyllyll.
“Mae'r sgyrsiau am droseddau cyllyll, a gyflwynwyd gan GCI mewn partneriaeth â Mr. John Davey, wedi cael effaith sylweddol mewn ysgolion ledled Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. “Mae'r sesiynau wir wedi ennyn diddordeb y plant, sydd wedi gofyn cwestiynau craff ac wedi dangos empathi go iawn tuag at stori bersonol John. Mae'r sgyrsiau hyn wedi ategu Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Cyllyll yn berffaith, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â'r rhaglen bwysig hon yn y dyfodol.”

“Mae ein gwaith gydag ysgolion yn hollol amhrisiadwy o ran addysgu plant a phobl ifanc, a lleihau troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll yn y tymor hwy.”
Mae gan lawer o blant yn y system cyfiawnder ieuenctid anghenion cymhleth, gan gynnwys rhai sy'n deillio o drawma. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â thrais sy'n gysylltiedig â thrawma drwy gynllun arloesol, y Prosiect Meithrin Perthnasoedd Gyda'n Gilydd. Mae hwn yn canolbwyntio ar ddeall sut y gall trawma effeithio ar ddatblygiad plentyn a darparu ar gyfer eu hanghenion gyda'r dull a ddewisir. Gall y math hwn o waith trawma helpu i leihau achosion sylfaenol trais ymhlith plant.
Gydag ystadegau cyfiawnder ieuenctid diweddar o Gymru a Lloegr yn dangos gostyngiad yn nifer y troseddau â chyllyll neu arfau ymosodol a gyflawnwyd gan blant am y chweched flwyddyn yn olynol, mae'n ymddangos bod strategaethau'n effeithiol.
“Y ffordd fwyaf llwyddiannus o atal troseddau cyllyll ymhlith ein pobl ifanc yw trwy weithio mewn partneriaeth. Wrth i gynghorau, elusennau, heddluoedd, gweithwyr proffesiynol ieuenctid, rhieni, gofalwyr, ac unigolion weithio gyda’i gilydd, gallant wneud gwahaniaeth diriaethol ym mywydau pobl ifanc bob dydd. “Rydym yn hynod falch o'n gwaith ar y cyd â Chwm Taf a Heddlu De Cymru. Nod y dull amlochrog a fabwysiadwyd i atal troseddau cyllyll ledled y rhanbarth yw meithrin cymunedau mwy diogel i'n pobl ifanc. “Rydym wedi cael adborth cadarnhaol oddi wrth nifer o ffynonellau gwahanol am y rhaglenni rydym yn eu darparu, ac rydym yn parhau i wneud camau mawr wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.”