Dedfryd i breswylydd am dwyll gwerth £4,000 drwy Ostyngiad y Dreth Gyngor

Dydd Iau 07 Mai 2026

Mae un o drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei erlyn ar ôl hawlio'n ffug dros £4,000 o gymorth Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Mewn achos a ddygwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, plediodd Mrs Gail Watkinson, o Fracla, Pen-y-bont ar Ogwr, yn euog i ddwy drosedd yn Llys Ynadon Caerdydd ar 10 Chwefror 2026, o dan Reoliadau Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013.

Clywodd y llys nad oedd Mrs Watkinson wedi dweud wrth y cyngor yn brydlon pan ddechreuodd weithio i Tesco Stores a arweiniodd at gynnydd sylweddol yn ei hincwm. Ni ddywedodd chwaith fod ei mab wedi dechrau gweithio i'r un cwmni. Digwyddodd y troseddau rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mai 2022.

O ganlyniad i'w gweithredoedd, derbyniodd Mrs Watkinson £4,250.72 mewn Gostyngiad y Dreth Gyngor nad oedd ganddi hawl iddo.

Mewn gwrandawiad dedfrydu ar 17 Ebrill 2026, rhoddwyd gorchymyn cymunedol 12 mis iddi ar gyfer y ddwy drosedd, i’w cynnal ar yr un pryd. Mae'r gorchymyn yn cynnwys 15 diwrnod o weithgaredd adsefydlu a 40 awr o waith di-dâl. Mae'n rhaid iddi hefyd dalu £750 mewn costau a gordal dioddefwr o £95.

"Bwriad Gostyngiad y Dreth Gyngor yw cefnogi'r rhai sydd wir angen cymorth ariannol ac mae achosion fel hyn yn cymryd adnoddau cyhoeddus gwerthfawr oddi wrth y rhai sydd angen help fwyaf. "Byddwn bob amser yn cymryd camau i warchod arian cyhoeddus a sicrhau tegwch i bob preswylydd. Mae'r achos hwn yn dangos bod gennym brosesau cryf ar waith ac y bydd y rhai sy'n camarwain y system yn fwriadol yn wynebu'r canlyniadau."

Chwilio A i Y

Back to top