Delweddau ffug o waith adfywio yn 'camarwain y cyhoedd'

Dydd Gwener 26 Medi 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog pobl i ddiystyru unrhyw ddelweddau CGI answyddogol y gallen nhw eu gweld ar-lein sy'n honni eu bod yn dangos sut olwg fydd ar dai arfaethedig yn ardaloedd adfywio Salt Lake a glannau Porthcawl.  

Mae'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai, yn credu bod y delweddau ffug yn 'achosi dryswch, yn camarwain y cyhoedd ac yn lledaenu camwybodaeth'. 

Dywedodd:  "Nid yw'r delweddau ffug mewn unrhyw ffordd yn cynrychioli'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni ym Mhorthcawl, ac nid ydynt yn seiliedig ar y cynigion diweddaraf yr ydym wrthi’n eu diweddaru. 

"Yn anffodus, ar sail negeseuon e-bost rydw i wedi'u derbyn a rhai o'r sylwadau a wnaed yn uniongyrchol ar bostiadau’r delweddau ffug, mae’n ymddangos bod llawer o bobl yn credu eu bod yn ddilys, felly mae'n rhaid i mi bwysleisio eto nad ydyn nhw'n wir mewn unrhyw ffordd. Bydd hyn yn dod yn amlwg yn ddiweddarach yn yr hydref pan fyddwn yn rhyddhau ein delweddau swyddogol ein hunain a fydd yn dangos yn gywir ein cynigion terfynol uchelgeisiol ar gyfer yr ardal adfywio. 

"Er bod ein cynlluniau yn cynnwys ychydig llai na mil o gartrefi newydd mawr eu hangen, dylen ni gofio eu bod yn cael eu cynnig yn erbyn cefndir ehangach argyfwng tai cenedlaethol. Byddan nhw ar wasgar ledled yr ardal adfywio, a byddan nhw’n eiddo fydd yn seiliedig ar gymuned a fydd yn addas ar gyfer cymysgedd o deuluoedd, pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, cyplau newydd, preswylwyr hŷn a mwy. 

"Er mwyn sicrhau bod hyn yn gallu helpu cynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys preswylwyr sy'n teimlo eu bod wedi cael eu prisio allan o'u tref enedigol, bydd hanner yr holl dai newydd yn cael eu dosbarthu fel tai fforddiadwy, ynghyd ag amwynderau a seilwaith ychwanegol a chyfleusterau parcio wedi'u dosbarthu'n gyfartal.

"Mae ymgysylltu â'r cyhoedd wedi bod yn gonglfaen i'r broses adfywio, ac rydyn ni wedi cynnal o leiaf 10 digwyddiad ymgynghori ar rannau penodol o'r cynigion adfywio yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig. O ganlyniad, rydyn ni wedi ceisio cynnwys cynifer o'r syniadau a'r cyfleusterau a awgrymwyd gan breswylwyr yn y cynlluniau terfynol â phosibl. 

"Mae hyn yn golygu bod y cynigion, yn ogystal â thai, yn cynnwys pethau fel siopau newydd, caffis, bwytai a chiosgau, traciau pwmpio a pharciau sglefrio, ardaloedd gemau aml-ddefnydd, parciau poced, ardaloedd chwarae newydd a digon o fannau agored hyblyg sy'n addas ar gyfer cynnal digwyddiadau tymhorol fel ffeiriau, reidiau ffair, lloriau sglefrio a marchnadoedd arbenigol.

"Gyda gwaith tirlunio helaeth trwy'r cyfan a choridor gwyrdd sylweddol sy'n ymlwybro trwy'r parth adfywio i ailgysylltu â'r glannau, gallai Parc Griffin fwy na threblu o ran maint ac elwa o ystod eang o gyfleusterau newydd, megis wal ddringo a llwybr ffitrwydd llawn offer.

"Bydd Sandy Bay hefyd yn cael ei drawsnewid gydag amddiffynfeydd arfordirol newydd ar ffurf waliau cynnal grisiog a fydd yn arwain i lawr i'r traeth, a chyfleoedd newydd sbon ar gyfer unedau manwerthu ffres ar hyd y promenâd.

"Bwriad y cynlluniau hyn yw ategu agweddau presennol ar y gwaith adfywio sydd eisoes wedi'i gwblhau, megis y Metro Link neu Cosy Corner, fel y gallant gyda’i gilydd ddiwallu anghenion preswylwyr ac ymwelwyr yn y ffordd orau bosibl ac, yn y pen draw, sicrhau dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i Borthcawl.

"Byddwn yn gofyn i unrhyw un sy'n gweld y delweddau ffug yn y cyfamser gofio nad ydynt yn adlewyrchu realiti ein cynigion adfywio, ac i aros tan yr hydref cyn llunio barn, pan fydd digon o gyfle i weld delweddau cywir, swyddogol o'n cynlluniau."

Golygfa o'r awyr o Fae Sandy

Chwilio A i Y

Back to top